Henry Ayabowei (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi enwi dyn o Langefni a fu farw yn dilyn ymosodiad y tu allan i glwb nos ym Mangor fore Sadwrn.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r tad i ddau, Henry Ayabowei, 27, yn anymwybodol y tu allan i glwb Peep.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty lle bu farw fore Sul.

Mae dyn 26 oed a gafodd ei arestio’n dilyn yr ymosodiad bellach wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.

Mae tîm pêl-droed Llanfairpwll wedi talu teyrnged i’r dyn oedd yn cael ei adnabod yn lleol fel ‘Henry Esin’ gan ddweud ei fod wedi bod yn ddyn “bonheddig ym mhob ystyr”.

Apêl

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae Heddlu Gogledd  Cymru wedi apelio am dystion.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod yn “parhau i weithio gyda deiliaid trwyddedau, busnesau ac asiantaethau sy’n bartneriaid i atal y fath ddigwyddiadau trasig”.