Awyr Lefftenant Geraint “Roly” Roberts, (Llun: Y Weinyddiaeth Amddiffyn)
Mae cwestau i farwolaethau dau aelod o’r Awyrlu gafodd eu lladd mewn gwrthdrawiad hofrennydd yn Afghanistan ddwy flynedd yn ôl yn cael eu cynnal heddiw.

Un ohonyn nhw oedd Geraint ‘Roly’ Roberts, 44 oed, o’r Rhyl a’r dyn arall oedd Alan Scott, 32 oed, o Lundain.

Roedd y ddau wedi hyfforddi yn Lefftenant Awyr ac fe gawsant eu lladd ar ôl i’w hofrennydd Puma Mk 2 fynd i drafferthion wrth geisio glanio ym mhencadlys canolfan hyfforddiant Nato yn Kabul ar 11 Hydref 2015.

Roedden nhw ymhlith pump o bobol gafodd eu lladd, a phump arall gafodd eu hanafu.

Bydd eu cwestau’n cael eu cynnal yn Llys y Crwner Rhydychen heddiw.

Roedd Geraint Roberts o’r Rhyl yn briod ac yn dad i ddau o blant, a bu’n gwasanaethu yn Bosnia, Ynysoedd y Falkland, Irac ac Afghanistan.