Awyr Lefftenant Geraint “Roly” Roberts
Roedd dyn o ogledd Cymru ymhlith dau aelod o’r Llu Awyr gafodd eu lladd mewn damwain hofrennydd yn Afghanistan ddoe, meddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Bu farw’r Awyr Lefftenant Geraint “Roly” Roberts, 44, a’r Awyr Lefftenant Alan Scott, 32, o Lundain, ar ôl i’w hofrennydd Puma Mk 2 fynd i drafferthion wrth geisio glanio ym mhencadlys canolfan hyfforddiant Nato yn Kabul bnawn dydd Sul.

Roedd y ddau ymhlith pump o bobl gafodd eu lladd yn y ddamwain, a chafodd pump o bobl eraill eu hanafu.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi mynnu mai “damwain” oedd y digwyddiad ac nad oedd gwrthryfelwyr wedi ymosod ar yr hofrennydd.

Roedd Geraint Roberts, a gafodd ei fagu yn Y Rhyl, ac Alan Scott yn aelodau o’r Awyrlu yn eu safle yn Benson, Sir Rhydychen.

‘Anrhydedd’

Mae’r Capten Simon Paterson o’r Awyrlu yn Benson wedi rhoi teyrnged i’r ddau ddyn gan ddweud y bydd colled fawr am “ddau o’n cydweithwyr a chyfeillion mwyaf galluog ac ymroddedig.”

Ychwanegodd bod Geraint Roberts  “yn ddyn milwrol i’r carn a oedd ymgorfforiad o’r hyn y mae’r Awyrlu yn ei gynrychioli. Roedd yn anrhydedd i wasanaethu a hedfan gydag ef.”

Roedd Geraint Roberts yn briod ac yn dad i ddau o blant. Fe ymunodd  a’r Awyrlu yn 1988 gan wasanaethu yn Bosnia, Ynysoedd y Falkland, Irac ac Afghanistan.

Mae pencadlys Nato, Resolute Support, yn Kabul, yn rhan o ymgyrch i roi hyfforddiant a chymorth i luoedd diogelwch a sefydliadau yn Afghanistan.

Dywed y Weinyddiaeth Amddiffyn bod tua 500 o filwyr o Brydain yn parhau yn Afghanistan fel rhan o’r ymgyrch.