Rosemarie Harries, Arweinydd Cyngor Powys
Am y tro cyntaf erioed, dynes fydd Arweinydd Cyngor Powys wedi i Rosemarie Harris gael ei hethol i’r swydd neithiwr.

Daw hyn yn dilyn newyddion o Fôn yr wythnos diwethaf lle cafodd Llinos Medi Huws ei henwebu fel y ddynes gyntaf i arwain y cyngor yno.

Mae’r Cynghorydd Rosemarie Harris o’r grŵp annibynnol wedi cynrychioli ei ward yn Llangynidr ger Crughywel ers bron i ddau ddegawd, a hithau wedi ei hethol gyntaf yn 1999.

Mae’n olynu Barry Thomas fel arweinydd wedi iddo gyhoeddi ei ymddeoliad cyn yr etholiadau lleol eleni.

Yn ei haraith gyntaf, cyfeiriodd Rosemarie Harris at rai o’r heriau sy’n wynebu Powys gan gynnwys “pwysau parhaus ar wario cyhoeddus.”

Dywedodd hefyd fod angen “symud ymlaen” â’r gwaith integreiddio gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a’i bod hefyd am hybu’r sir fel man ymweld i dwristiaid.

Fe fydd Cyngor Powys yn ffurfio clymblaid rhwng y grŵp Annibynnol a grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, ac fe fydd yn penodi ei chabinet yr wythnos nesaf.