Llinos Medi Huws (llun Cyngor Ynys Mon)
Mae disgwyl i Llinos Medi Huws gael ei hethol yn arweinydd Cyngor Môn yn y cyfarfod nesaf – hi fyddai’r ferch gyntaf erioed i wneud y swydd ar yr ynys.

Y Cynghorydd 35 oed Plaid Cymru yw’r ifancaf yn siambr Cyngor Môn. Does yna neb arall yn cystadlu gyda hi am swydd yr arweinydd.

Dywed y darpar arweinydd newydd wrth golwg360 ei bod yn teimlo pwysau’r cyfrifoldeb sydd arni.

“Efallai y bydd yna fwy o rwystr, mi fydda rhai yn dweud, oherwydd fy oed i, gan mai fi ydy’r cynghorydd ifancaf yma a hefyd yr arweinydd ifancaf sydd wedi bod yma,” meddai Llinos Medi Huws.

“Mi fydd yna rai yn dweud hynny ond mi ydw i wedi bod yn aelod ers pedair blynedd, dw i wedi bod yn ymroddedig i’r swydd ers cael fy ethol yn 2013, yn amlwg dw i wedi dangos hynny i grŵp Plaid Cymru fy ethol i fel eu harweinydd nhw yn 2015.

“A dw i wedi bod ynghlwm â’r pwyllgorau i gyd sydd yma, dw i wedi eistedd yn y cefn mewn amryw yn gwylio beth sy’n mynd ymlaen a dw i wedi bod yn aelod ar y pwyllgorau.

“A dw i wedi gwneud yn siŵr bod fi wedi cymryd rhan ymhob agwedd sydd yna o waith y Cyngor, felly dw i’n meddwl bod gennyf i’r un cryfderau ag unrhyw aelod arall sydd eisiau bod yn arweinydd.”

Arwain yn “aeddfed”

Yn ôl Llinos Medi Huws ei phrif dasg yn ei swydd newydd fydd arwain y Cyngor mewn modd “aeddfed” ac ymateb i’r heriau ariannol sy’n wynebu’r awdurdod.

“Dw i wedi bod yn arweinydd ar yr wrthblaid ers dwy flynedd yma, dw i wedi bod yn gwneud yn siŵr bod gennym ni wrthblaid oedd yn aeddfed, oedd yn cydweithio er lles Ynys Môn.

“Mi fydda’ i’n arwain y Cyngor yn yr un modd, bod ni’n Gyngor aeddfed ac yn parhau i wneud y gorau dros bobol Ynys Môn ac ymateb i’r heriau cyllidebol sydd o’m blaenau ni, yr un fath ag sy’n herio pob un awdurdod yng Nghymru.”

Bydd Cyngor Môn yn pleidleisio i ddewis yr Arweinydd newydd ar Fai 23.