Aston Martin Llun: PA
Mae’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi manylion cymorth ariannol a gafodd ei roi i gwmni ceir Aston Martin.

Cyhoeddodd y cwmni y llynedd ei bod yn bwriadu agor ffatri newydd yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg a’r disgwyl yw bydd y prosiect yn derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Hyd yma mae gweinidogion wedi gwrthod  datgelu faint o arian cyhoeddus fydd yn rhan o’r fargen.

Mae’r Comisiynydd Gwybodaeth, Elizabeth Denham, wedi dyfarnu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddatgelu’r manylion o fewn 35 diwrnod.

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi ymateb gan ddweud eu bod “wedi nodi penderfyniad y Comisiynydd Gwybodaeth ac rydym yn ystyried ein camau nesaf.”

“Effaith anffafriol”

Cafodd y cais am y wybodaeth ei wneud ym mis Chwefror y llynedd gan ddyn busnes trwy’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Hyd yn hyn mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod a datgelu’r wybodaeth oherwydd pryderon am “effaith anffafriol” ar eu gallu i gynnal trafodaethau masnachol yn y dyfodol.

Yn ei hysbysiad mae’r Comisiynydd Gwybodaeth yn dadlau na fyddai datgelu’r wybodaeth yn effeithio trafodaethau’r Llywodraeth â chwmnïau eraill, gan nodi eu bod wedi cyhoeddi manylion ariannol prosiectau o’r fath yn y gorffennol.