Car newydd Aston Martin, DBX
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu penderfyniad y cwmni ceir byd enwog Aston Martin i agor ffatri newydd ym Mro Morgannwg.

Bydd 750 o swyddi’n cael eu creu yn y ffatri fydd yn gartref i’r model DBX newydd o 2020 ymlaen.

Hon fydd ail ffatri’r cwmni sy’n gysylltiedig ag adeiladu ceir sy’n ymddangos mewn ffilmiau James Bond.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Aston Martin, Dr Andrew Palmer: “Yn ystod ein 103 o flynyddoedd fel cwmni, mae Aston Martin wedi dod yn enwog am wneud ceir â llaw yn Lloegr.

“Drwy werthuso dros 20 o leoliadau posibl yn fanwl ledled y byd ar gyfer y ganolfan weithgynhyrchu newydd hon, rydym yn cael ein synnu yn aml gan y pwyslais sydd ar ansawdd, cost a chyflymder tîm Llywodraeth Cymru.

“Fel cwmni gwych o Brydain, rydym yn edrych ymlaen at weld Sain Tathan yn ymuno â Gaydon fel ein hail ganolfan weithgynhyrchu â llaw i gyrraedd safon uchel iawn.”

‘Dechrau perthynas’

Wrth groesawu penderfyniad Aston Martin i ddod i Sain Tathan, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Dwi’n falch o groesawu’r Aston Martin yn swyddogol i Gymru.  Rydyn ni wedi bod yn cydweithio’n agos â’r cwmni am bron i ddwy flynedd, gan wynebu cystadleuaeth ffyrnig gan safleoedd posibl eraill ledled y byd.

“Mae ein llwyddiant heddiw yn dyst o  enw da, ymroddiad a sgiliau’r gweithlu yng Nghymru, y rhagoriaethau sy’n gweddu i frand mor foethus â’r Aston Martin, sy’n cael ei gynhyrchu â llaw.

“Heddiw yw dechrau perthynas hirdymor rhwng Cymru ac Aston Martin. Byddwn yn cydweithio i greu sylfaen gref i’n partneriaeth i feithrin dyfodol llewyrchus i’r cwmni eiconig hwn a’i weithlu dawnus yng Nghymru.”


Safle newydd ffatri Aston Martin, yn Sain Tathan
‘Cyfnod pwysig’

Ychwanegodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: “Mae penderfyniad Aston Martin i fuddsoddi yn ei weithfeydd newydd yn Sain Tathan yn nodi cyfnod pwysig yn hanes y sector moduro yng Nghymru.

“Mae gennym dros 150 o gwmnïau sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi fodurol, gan gyflogi dros 18,000 o bobl a chynhyrchu dros £3biliwn i economi Cymru, ond dyma fydd y tro cyntaf mewn bron i 50 o flynyddoedd inni weld cerbydau yn dod oddi ar linell gynhyrchu yng Nghymru.

“Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ag Aston Martin i sicrhau bod y safle, yng nghanol Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Sain Tathan, yn parhau i gyd-fynd ag uchelgeisiau’r cwmni o ran unrhyw dwf yn y dyfodol, ac mae’n cynnig gwaith dawnus iawn a phrentisiaethau o safon fyd-eang yn y sector moduro am genedlaethau lawer.”

Croesawu ffatri geir yn lle ‘canolfan rhyfela’

Wrth groesawu’r ffatri newydd, dywedodd Undeb yr Annibynwyr yng Nghymru, na fyddai hynny wedi bod yn bosib pe bai Academi Filwrol enfawr wedi cael ei hadeiladu yno.

Daeth y cynllun am academi o’r fath yn 2010 oherwydd toriadau i’r Weinyddiaeth Amddiffyn, ac yn ôl Undeb yr Annibynwyr, ni fyddai Aston Martin wedi dod i Gymru petai’r cynllun wedi cael sêl bendith.

“Rydym wrth ein bodd bod rhan fawr o safle’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan nawr i’w ddefnyddio gan Aston Martin fel ffatri geir, gan ddarparu cannoedd o swyddi sy’n talu’n dda, yn hytrach nag fel canolfan hyfforddi ar gyfer rhyfela,” meddai Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr.