Matthew Rees ar ol cwblhau'r marathon yn Llanelli (Llun: The great Welsh marathon)
Mae’r gŵr ddaeth i lygad y cyhoedd ryw bythefnos yn ôl ym marathon Llundain wedi llwyddo i ennill marathon yn Llanelli y penwythnos hwn.

Cafodd lluniau a chlipiau fideos o Matthew Rees, 29 oed, eu rhannu gannoedd o weithiau ar y we wedi iddo helpu rhedwr arall i gwblhau’r ras yn Llundain.

Roedd David Wyeth, 35 oed o Fanceinion, wedi mynd i drafferthion cwta filltir o’r llinell derfyn ym marathon Llundain, ac fe waeth Matthew Rees o Abertawe ei helpu i gwblhau’r ras.

Dywedodd Cadeirydd Clwb Athletau Abertawe bryd hynny “mae rhedwyr pellter hir yn hyfforddi fel grŵp ac mae ganddyn nhw feddylfryd grŵp – maen nhw’n edrych ar ôl ei gilydd.”

A dydd Sul (Mai 7) daeth llwyddiant i Matthew Rees wrth iddo orffen The Great Welsh Marathon yn gyntaf, a hynny mewn 2 awr 50 munud a 4 eiliad.

Roedd y ras yn mynd ar hyd Llwybr Arfordir y Mileniwm, gyda thua 500 yn cymryd rhan.