David Wyeth a Matthew Rees ar ol cwblhau Marathon Llundain (Llun - Adam Davy/PA
Un o’r lluniau mwyaf poblogaidd i gael eu rhannu wedi Marathon Llundain yw llun o un rhedwr o Abertawe yn cario a chynorthwyo rhedwr arall i gwblhau’r ras.

Mewn cynhadledd i’r wasg heddiw fe wnaeth David Wyeth, 35 oed, o Fanceinion ddiolch i Matthew Rees, 29 oed, o Abertawe am ei helpu dros y llinell derfyn.

Dywedodd na fyddai wedi llwyddo i gwblhau’r ras heb help y dyn o Abertawe, a dywedodd ei fod yn ddiolchgar iddo am ei annog i barhau cwta filltir o’r llinell derfyn.

Mae’r lluniau wedi’u rhannu cannoedd o weithiau ar y we, ac yn ôl Cadeirydd Clwb Athletau Abertawe lle mae Matthew Rees yn aelod – “mae rhedwyr pellter hir yn hyfforddi fel grŵp ac mae ganddyn nhw feddylfryd grŵp – maen nhw’n edrych ar ôl ei gilydd.”