Mae cais rhyddid gwybodaeth wedi datgelu fod staff Cyngor Caerdydd wedi hawlio mwy na £1m o gostau teithio i’w gwaith rhwng 2015 a 2016.

Mae’r ffigurau’n dangos fod £1,095,587.50 o gostau teithio wedi’i hawlio gan Swyddogion Cyngor Caerdydd, wedi i’r Ceidwadwyr Cymreig gyflwyno’r cais rhyddid gwybodaeth ddiwedd mis Chwefror eleni.

Ac mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi mynegi pryderon am y symiau a’i effaith ar drethdalwyr.

“Mae preswylwyr Caerdydd wedi gweld treth y cyngor yn cynyddu mewn blynyddoedd diweddar, a bydd nifer yn holi a ydi’r symiau hyn yn cynrychioli gwerth am arian,” meddai.

“Mae fel pe bai arweinwyr y cyngor ar blaned hollol wahanol i’r bobol gyffredin sy’n gweithio’n galed y maen nhw’n eu cynrychioli,” ychwanegodd.

Daw’r manylion hyn wedi i Gynghrair y Trethdalwyr ddatgelu’n ddiweddar fod 102 o weithwyr cynghorau Cymru’n ennill o leiaf £100,000 y flwyddyn.