Llun: PA
Mae mwy na chant o weithwyr cynghorau yng Nghymru’n ennill cyflogau chwe ffigwr, yn ôl astudiaeth newydd gan Gynghrair y Trethdalwyr.

Fe wnaeth astudiaeth y gynghrair, sef y Town Hall Rich List ddatgelu fod 102 o weithwyr awdurdodau lleol yng Nghymru’n ennill cyflogau o’r fath.

Ond dyna oedd y nifer lleiaf o bobol o gymharu â rhanbarthau eraill gwledydd Prydain gyda 450 o weithwyr cynghorau yn Llundain yn ennill mwy na £100,000 y flwyddyn a 368 yn ennill yn debyg yn ne ddwyrain Lloegr.

Y cyfanswm ar draws Cymru a Lloegr oedd 2,314 o weithwyr cynghorau yn ennill cyflogau chwe ffigwr yn 2015-16, cynnydd o 89 ers y flwyddyn flaenorol.

“Yn anffodus, mae nifer o awdurdodau lleol yn ymateb yn awr i’r gwirionedd ariannol drwy godi trethi ymhellach a lleihau gwasanaethau yn hytrach na thorri’n ôl ar y cyflogau mwyaf,” meddai John O’Connell, Prif Weithredwr y grŵp sy’n ymgyrchu am lywodraeth lai a threthu is.