Roedd adroddiadau wedi bod am lifogydd ger pentre' Ewenni (Mick Lobb CCA 2.0)
Mae’r corff sy’n arolygu cwynion yn erbyn yr heddlu wedi cyhoeddi ei fod yn ymchwilio i ymateb Heddlu De Cymru i lifogydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr cyn i ddyn farw.

Fe fydd Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) yn ystyried a ddylai Heddlu De Cymru fod wedi ymateb yn wahanol pawn gawson nhw rybuddion am lifogydd ychydig ynghynt yr un dydd.

Yn benodol, fe fydd yn holi a oedd y sawl a oedd yn delio gyda’r gawladau brys wedi pwyso a mesur y wybodaeth yn iawn.

Y cefndir

Fe aeth Russell Sherwood, 69, ar goll ar 20 Tachwedd 2016 ar ôl methu â chasglu ei wraig o’r gwaith.

Cafwyd hyd i’w gorff ar 23 Tachwedd 2016 yn ei gar, oedd wedi mynd dan ddŵr Afon Ogwr yn dilyn llifogydd ar y ffordd ym mhentref Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr.

“Bydd ein hymchwiliad yn asesu camau gweithredu’r heddlu cyn ei ddiflaniad a ph’un a oedd polisïau a gweithdrefnau priodol wedi’u dilyn,” meddai pennaeth yr IPCC yng Nghymru, Jan Williams.

“Rydym wedi cysylltu â theulu Mr Sherwood i egluro ein rôl, a byddwn yn rhoi’r diweddaraf iddyn nhw wrth i’r ymchwiliad ddatblygu.”