Mae Heddlu De Cymru yn dweud eu bod wedi dod o hyd i gorff wrth chwilio am ddyn o Gastell-nedd sydd wedi bod ar goll mewn tywydd garw ers dydd Sul.

Fe ddaeth swyddogion o hyd i gar Ford Focus arian yn afon Ogwr ddoe, ac roedd lle i gredu mai dyma gerbyd Russell Sherwood.

Dywedodd Uwch-arolygydd Heddlu’r De, Simon Davies, bod amodau’r chwilio yn yr ardal yn wedi bod yn “beryglus”.

Mae ei deulu wedi cael gwybod am y datblygiadau, ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.