Carwyn Jones Llun: Y Blaid Lafur
Mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at Boris Johnson i alw arno i ymyrryd yn achos yr athro Mwslimaidd o Gymru gafodd ei atal rhag teithio i’r Unol Daleithiau’r wythnos diwethaf.

Mae Carwyn Jones hefyd wedi galw ar yr Ysgrifennydd Tramor i barhau â’r mater yn uniongyrchol ag awdurdodau’r Unol Daleithiau gan godi cwestiynau am natur yr hawliau teithio.

Cafodd Juhel Miah, sy’n athro Mwslimaidd yn Ysgol Uwchradd Llangatwg yn Aberdulais, ei rwystro rhag teithio o Wlad yr Iâ i Efrog Newydd ar Chwefror 16.

Mae’n ymddangos iddo gael ei dywys oddi ar yr awyren yn Reykjavik, er bod ganddo fisa dilys ar gyfer y daith, a’i fod wedi’i rwystro rhag mynd i mewn i Lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yno.

‘Gweithred o wahaniaethu’

Yn ei lythyr, mae Carwyn Jones yn cyfeirio at gyngor teithio Llywodraeth Prydain ers i’r Arlywydd Donald Trump gyhoeddi gorchymyn yn atal dinasyddion o saith gwlad Fwslimaidd rhag teithio i’r Unol Daleithiau.

Mae cyngor teithio Llywodraeth Prydain yn nodi na fydd deiliaid pasbort y Deyrnas Unedig, beth bynnag yw gwlad eu geni neu a oes ganddynt basbort arall, yn cael eu heffeithio.

Fe gadarnhaodd yr Ysgrifennydd Tramor wrth Dŷ’r Cyffredin  ddiwedd Ionawr eu bod wedi cael cadarnhad am hyn gan lywodraeth yr Unol Daleithiau.

‘Gwahaniaethu’

“Mae’n ymddangos imi fod cyngor teithio Llywodraeth Prydain a chytundeb y Deyrnas Unedig gyda Llywodraeth yr Unol Daleithiau, y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn Nhŷ’r Cyffredin, wedi cael eu diystyru yn yr achos hwn,” meddai yn ei lythyr.

“Mae Mr Miah, yn amlwg, yn teimlo’n ypset ac ag embaras am rywbeth sy’n ymddangos fel gweithred o wahaniaethu yn erbyn deiliaid pasbort y Deyrnas Unedig.

“Mae’r achos yn arbennig o siomedig yn wyneb y berthynas wych sydd fel arfer rhwng y wlad hon a’r Unol Daleithiau,” ychwanegodd.

Cefndir

Mae Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot hefyd wedi ysgrifennu at Lysgenhadaeth America yn Llundain i fynegi eu siom gan ddweud i’r athro gael ei “fychanu a’i ypsetio,” ac maen nhw wedi galw am esboniad.

‘Islamoffobig’

Mae Cyngor Mwslimaidd Cymru wedi ymateb gan ddweud fod yr achos yn weithred o “wahaniaethu Islamoffobig llwyr.”

“Rydym yn hynod bryderus ynglŷn â normaleiddio gwahaniaethu yn erbyn Mwslimiaid, ac mae’n cynnau fflamau casineb ac yn danwydd i sefydliadau asgell dde sy’n ceisio rhannu cymunedau a chreu ‘ni a nhw’ o fewn cymdeithas,” meddai llefarydd ar ran y cyngor.

“Dyma’r achos diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau lle mae Mwslimiaid wedi’u gwrthod rhag mynd i mewn i’r Unol Daleithiau; digwyddiadau sydd mewn gwirionedd yn dyddio’n ôl Trump a’r gwaharddiad ar Fwslimiaid.”

Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb y Swyddfa Dramor.