Llun: PA
Mae Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot wedi ysgrifennu at Lysgenhadaeth America yn Llundain i fynegi eu siom ar ôl i athro ysgol Mwslemaidd fethu cael mynediad i’r Unol Daleithiau wrth iddo deithio i Efrog Newydd ar daith gyda disgyblion.

Roedd  Juhel Miah a grŵp o blant o Ysgol Uwchradd Llangatwg yn Aberdulais yn teithio o Wlad yr Ia pan gafodd ei dywys oddi ar yr awyren yn Reykjavik ar 16 Chwefror.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot bod y daith wedi parhau ond bod y disgyblion a chyd-weithwyr Juhel Miah wedi eu “synnu” ar ôl i’r athro “poblogaidd ac uchel ei barch” gael ei dywys oddi ar yr awyren gan swyddogion diogelwch.

Mae’r cyngor wedi mynegi ei siom ynglŷn â’r driniaeth a gafodd Juhel Miah mewn llythyr at Lysgenhadaeth America yn Llundain. Dywedodd y cyngor eu bod ar ddeall bod Juhel Miah wedi methu cael mynediad i Efrog Newydd gan yr awdurdodau yn yr Unol Daleithiau a hynny er bod ganddo fisa ar gyfer y daith.

‘Dim esboniad boddhaol’

Dywedodd llefarydd: “Rydyn ni wedi ein harswydo gan y driniaeth a gafodd Juhel Miah ac yn mynnu esboniad. Mae’r mater hefyd wedi cael ei godi gyda’r aelod seneddol lleol.

“Nid oes esboniad boddhaol wedi cael ei roi am wrthod mynediad i’r Unol Daleithiau – un ai yn y maes awyr yng Ngwlad yr Ia neu gan Lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Reykjavik.

“Roedd Juhel Miah wedi ceisio ymweld â’r llysgenhadaeth ond cafodd ei atal rhag cael mynediad i’r adeilad.”

Ychwanegodd bod Juhel Miah yn teimlo ei fod wedi cael ei “fychanu ac wedi ypsetio” yn dilyn y digwyddiad.

Gorchymyn Donald Trump

Roedd yr Arlywydd Donald Trump wedi cyhoeddi gorchymyn yn ystod ei wythnos gyntaf yn y swydd er mwyn atal dinasyddion o saith gwlad Mwslemaidd yn bennaf rhag teithio i America am 90 diwrnod. Fe achosodd y gorchymyn anhrefn mewn meysydd awyr yn yr Unol Daleithiau a bu protestiadau ar draws y wlad.

Yn ol yr Arlywydd mae’r gorchymyn yn hanfodol i sicrhau diogelwch cenedlaethol ond mae barnwyr wedi atal y gorchymyn dros dro tra ei fod yn cael ei adolygu.