Llun o wefan yr heddlu
Does dim rhagor o ddatblygiadau yn achos y dyn 70 oed o Lanberis a gafwyd yn farw yn oriau mân dydd cynta’r flwyddyn.

Mae Heddlu Gogledd Cymru’n parhau i holi dyn arall am y digwyddiad ac yn dweud eu bod yn ystyried bod y farwolaeth yn “amheus”.

Dyw’r heddlu ddim wedi cyhoeddi enw’r pensiynwr ond mae papur lleol yn dweud mai Dafydd Hughes oedd o a’i fod yn uchel ei barch ymhlith cymdogion.

Mae’n debyg mai dyn lleol sydd wedi cael ei arestio a dyw’r heddlu ddim yn chwilio am neb arall ar hyn o bryd.

Roedden nhw wedi cael eu galw i dŷ yn stad Maes Padarn yn y pentre’ tua thri y bore, ddydd Calan.