Mae dyn lleol wedi’i arestio mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 70 oed yn Llanberis yn ystod oriau mân Ionawr 1.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau mewn datganiad iddyn nhw gael eu galw i gyfeiriad yn stad Maes Padarn yn y pentre’ wrth odre’r Wyddfa am 3yb.

Fe gafodd dyn 70 oed ei gludo i’r ysbyty, lle bu farw yn ddiweddarach.

Dydi’r heddlu ddim yn chwilio am neb arall mewn cysylltiad â’r farwolaeth, nawr fod un yn y ddalfa.

Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru, mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un “amheus”, ac mae prawf post mortem yn cael ei gynnal ar y corff.