Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau heddiw eu bod yn ymchwilio i achosion o gam-drin plant yn rhywiol o fewn y byd pêl-droed.

Daw hyn wrth i heddluoedd ar draws y Deyrnas Unedig dderbyn galwadau am achosion o’r fath gyda’r NSPCC wedi derbyn 250 o adroddiadau drwy eu hymchwiliad nhw.

Y cyn pêl-droediwr Andy Woodward oedd y cyntaf i siarad yn gyhoeddus am ei brofiadau, ac fe arweiniodd hynny at nifer o chwaraewyr eraill yn mynd at yr heddlu.

Mae’r hyfforddwr pêl-droed, Barry Bennell, wedi cael ei gyhuddo o wyth o droseddau rhyw yn erbyn bachgen 14 oed, ac mae disgwyl iddo fynd gerbron ynadon yn Ne Sir Gaer ar Ragfyr 14.

‘Cydweithio ag Operation Hydrant’

“Gallaf gadarnhau ein bod wedi derbyn nifer o adroddiadau o gam-drin rhywiol, nad sy’n ddiweddar, o fewn y byd pêl-droed,” meddai Ditectif Brif Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru, Andrew Williams.

“Rydym ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r ganolfan genedlaethol, Operation Hydrant, i sicrhau bod ein hymateb  yn gydlynol ac yn effeithiol; a’r bobol wnaeth adrodd yn ddewr am yr hyn ddigwyddodd iddyn nhw yw canolbwynt ein hystyriaethau,” meddai.

“Byddwn i’n annog unrhyw un sydd wedi dioddef o gam-drin plant yn rhywiol, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth yn y cyswllt hwn, i adrodd hynny i’r heddlu. Byddant yn cael eu clywed, eu cymryd o ddifrif a bydd ymchwiliad trylwyr yn cael ei gynnal.”