Barry Bennell (Llun: Wikipedia)
Mae’r hyfforddwr pêl-droed, Barry Bennell, wedi cael ei gyhuddo o wyth o droseddau rhyw yn erbyn bachgen 14 oed.

Ar Fedi 27, derbyniodd Gwasanaeth Erlyn y Goron ffeil gan Heddlu Sir Gaer yn nodi manylion troseddau honedig rhwng 1981 a 1985.

Mae disgwyl i’r dyn 62 oed fynd gerbron ynadon yn Ne Sir Gaer ar Ragfyr 14, wedi’i gyhuddo o bum achos o ymosod yn anweddus ar fachgen o dan 14 oed, dau achos o annog bachgen o dan 14 oed i gyflawni gweithred anweddus ddifrifol, ac un achos o fwriadu i gyflawni bwbechni.

Cafodd Barry Bennell ei gludo i’r ysbyty nos Wener ar ôl iddo gael ei ddarganfod yn anymwybodol mewn gwesty.

Pwysleisiodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod ganddo’r hawl i sefyll ei brawf mewn modd teg, ac na ddylid rhannu gwybodaeth ar y we a allai effeithio ar ganlyniad yr achos.