Roedd olew wedi gollwng i Nant Pibwr yn Nant-y-Caws
Mae ffordd ddeuol yr A48 drwy Nant-y-caws yn Sir Gaerfyrddin wedi ailagor i’r ddau gyfeiriad neithiwr, wrth i’r gwaith o drwsio’r bibell olew gael ei gwblhau yn gynt na’r disgwyl.

Roedd disgwyl i’r ffordd ailagor yn gynnar y bore yma, ond cafodd y gwaith ei gwblhau tua 8yh neithiwr (nos Sul, Hydref 16).

Yn ôl Heddlu Dyfed Powys, doedd dim gormod o drafferthion wedi’u cofnodi wrth iddynt ddargyfeirio traffig dros y penwythnos, ac fe wnaethant ddefnyddio drôn i’w cynorthwyo gyda’r dasg o reoli’r traffig.

Daeth hi i’r amlwg rai wythnosau’n ôl fod pibell amldanwydd sy’n cludo olew o’r burfa ym Mhenfro i derfynellau ym Manceinion, Kingsbury a Swydd Warwig yn gollwng.

Yn ôl ymchwiliad wedyn, daeth hi i’r amlwg bod 140,000 tunnell o olew gan gynnwys cerosin wedi gollwng ac wedi gorlifo i Nant Pibwr gerllaw, gan ladd nifer o bysgod yno.