Llun wedi ei dynnu o'r drôn sy'n helpu rheoli traffig yn ardal Caerfyrddin (llun: Heddlu Dyfed Powys)
Dywed Heddlu Dyfed Powys fod drôn yn profi i fod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer rheoli’r traffig yng Nghaerfyrddin tra bydd ffordd yr A48 wedi cau yn Nantycaws.

Mae’r ddyfais yn rhoi lluniau fideo byw i reolwyr trafnidiaeth ac yn eu galluogi i gynllunio ymlaen llaw ac ymateb yn gyflym i broblemau.

Mae’r drôn yn eiddo i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, sy’n cydweithio â’r heddlu yn y dasg.

“Mae’r offer arloesol yma’n ddefnyddiol iawn fel ‘llygad yn yr awyr’ i ni ac i’r asiantaethau eraill,” meddai’r Prif Arolygydd Peter Roderick o Heddlu Dyfed-Powys.

“Mae’n ein helpu ni i weld beth sy’n digwydd o flaen llaw fel ein bod ni’n gallu datrys problemau ynghynt.

“Bydd yn dal i fod yn rhan annatod o’r gwaith hyd nes bydd lôn tua’r gorllewin yr A48 yn Nantycaws yn ailagor.”