Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi wfftio honiadau bod cynlluniau ar y gweill i ganoli’r gwasanaethau fasgwlaidd i gleifion clefyd y siwgr a salwch yr arennau o Fangor a Wrecsam i Fodelwyddan.

Roedd yr Aelod Cynulliad Sian Gwenllian wedi datgan pryder ynglŷn ar syniad o symud gwasanaethau o Ysbyty Gwynedd, Bangor ac Ysbyty Maelor, Wrecsam i Glan Clwyd ar ôl trafodaeth gyda Phrif Weithredwr y Bwrdd Iechyd.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: “Nid oes unrhyw gynlluniau ar y gweill i gau’r un o adrannau fasgwlaidd ein hysbytai.

“Byddant yn parhau i fod yn weithredol ym mhob un o’n tri phrif ysbyty a byddant yn parhau i weithio’n agos gyda gwasanaethau cysylltiedig eraill yn yr ysbytai hyn, fel y rhai ar gyfer cleifion â diabetes a chyflyrau arennol.”

‘Uned arbenigol newydd’

Fe gadarnhaodd y llefarydd y bydd tua 300 o gleifion gogledd Cymru sydd angen llawdriniaeth fasgwlaidd gymhleth iawn yn cael triniaeth mewn uned arbenigol newydd yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae’r achosion hyn yn cynrychioli tua 20% o’r holl achosion fasgwlaidd yn y gogledd, meddai Betsi Cadwaladr, tra bod 80% o’r cleifion yn parhau i gael gofal a llawdriniaeth fasgwlaidd yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac Ysbyty Maelor, Wrecsam, yn ogystal ag yn Ysbyty Glan Clwyd.

Dywedodd y llefarydd: “Mae tystiolaeth glinigol gref i ddangos bod y cleifion hyn yn cael y canlyniadau mwyaf llwyddiannus pan gaiff eu llawdriniaeth ei rhoi gan dîm sy’n cynnig y llawdriniaethau hyn yn rheolaidd mewn uned fasgwlaidd arbenigol.

“Dyna pam yn 2013, yn dilyn ymgynghori â’r cyhoedd, y gwnaeth y Bwrdd benderfynu gweithio tuag at roi’r llawdriniaethau cymhleth hyn mewn un ysbyty (Glan Clwyd), yn hytrach nag ar draws tri safle.”

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau o dan fesurau arbennig ers mwy na blwyddyn yn dilyn adroddiad damniol am yr arweinyddiaeth a’r gwasanaeth yno.