Mae blwyddyn union wedi mynd heibio ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei rhoi o dan fesurau arbennig yn sgil adroddiad damniol am yr arweinyddiaeth a’r gwasanaeth.

Bellach, mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru wedi canmol y cynnydd sydd wedi’i gyflawni – ond fe fydd y mesurau’n parhau am y tro gan  fod y bwrdd “yn dal i wynebu heriau ac mae ganddo lawer o waith i’w wneud.”

Dywedodd fod y Bwrdd wedi cynnal “penodiadau allweddol” wrth benodi Prif Weithredwr newydd ym mis Rhagfyr y llynedd, sef Gary Doherty, a hynny wedi ymddiswyddiad yr Athro Trevor Purt.

Ers Mehefin 8 y llynedd, maen nhw hefyd wedi penodi Cyfarwyddwr Meddygol, Cyfarwyddwr Nyrsio a Chyfarwyddwr Iechyd Meddwl newydd.

Cymeradwyo Uned Gofal Dwys

“Mae hyn yn newyddion calonogol,” meddai Vaughan Gething gan ddweud fod y Bwrdd wedi “cymryd camau i wella’r ffordd y mae’n ymateb i bryderon a chwynion cleifion ac mae wedi adolygu ei phrosesau llywodraethu.”

Dywedodd fod achos busnes amlinellol i sefydlu Canolfan Isranbarthol ar gyfer Gofal Dwys i’r Newydd-anedig wedi’i gymeradwyo hefyd, ac wedi’i drosglwyddo i’r camau gweithredu nesaf.

Esboniodd y bydd yr uned hon yn “darparu gofal o’r safon uchaf a’r canlyniadau clinigol gorau i famau a babanod ledled Gogledd Cymru.”

Parhau o dan fesurau

Ond, fe ddywedodd Vaughan Gething na fydd y mesurau arbennig yn cael eu codi am fod y bwrdd “yn dal i wynebu heriau ac mae ganddo lawer o waith i’w wneud.”

Ym mis Hydref y llynedd, dywedodd y dylai’r Bwrdd aros o dan fesurau arbennig am ddwy flynedd.

Ategodd heddiw y bydd yn “cymryd cryn amser iddo wneud y gwelliannau sydd eu hangen, ond mae’r arwyddion o gynnydd yn galonogol.”