Carwyn Jones
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi beirniadu ymateb Llywodraeth Cymru i’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, gydag arweinydd Plaid Cymru’n dweud bod yr ymateb yn “araf.”

Daw hyn yn dilyn datganiad gan y Prif Weinidog yn y Senedd y prynhawn yma’n amlygu’r camau sydd wedi eu cymryd yn y broses drawsnewid Ewropeaidd.

Amlygodd Carwyn Jones iddo fod ar ymweliad busnes ag America yn ddiweddar, gan bwysleisio fod cynnal mynediad at y farchnad sengl yn hanfodol i Gymru.

Dywedodd hefyd fod gan y Llywodraeth Dîm Trawsnewid Ewropeaidd a Grŵp Cynghori bellach, a’i fod wedi cynnal amryw o gyfarfodydd â’r Llywodraeth yn San Steffan ynghyd â chyfarfod ag arweinwyr gwleidyddol yr Alban a Gogledd Iwerddon.

‘Angen eglurder’

Ond, dywed Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru: “O’r cychwyn, yn llygaid llawer o gyrff, busnesau a rhanddeiliaid eraill, bu ymateb y Llywodraeth Lafur i Brexit yn araf.

“Tan yr wythnos ddiwethaf, nid oeddem wedi clywed llawer gan y Prif Weinidog am sut y bydd yn amddiffyn buddiannau cenedlaethol Cymru, a hyd yn oed nawr, mae’n edrych fel petai’n ddryslyd iawn am y manylion,” meddai.

Dywedodd mai’r flaenoriaeth i’w phlaid hi yn ystod y trafodaethau yw amddiffyn economi Cymru.

“Rhaid i hyn gynnwys sicrhau aelodaeth lawn o’r farchnad sengl i Gymru.

“Mae diffyg cynllun y Prif Weinidog yn ychwanegu at yr ansicrwydd a achoswyd gan Brexit,” meddai.

Y farchnad sengl

Ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi codi pryderon am wahaniaeth rhwng daliadau Carwyn Jones a Jeremy Corbyn ynglŷn â’r farchnad sengl.

Awgrymodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies fod daliadau Carwyn Jones i sicrhau mynediad rhydd at y farchnad sengl yn “groes i ddaliadau arweinydd Llafur y DU Jeremy Corbyn.”

Mae’n honni: “Mewn sesiwn briffio yn dilyn cwestiynau’r Prif Weinidog wythnos ddiwethaf [yn San Steffan], dywedodd ffynhonnell o Lafur fod Corbyn eisiau gwrthod rhai o agweddau hanfodol y farchnad sengl – gan gynnwys cyfyngiadau ar bryd y gall llywodraethau achub cwmnïau sy’n methu.”

Ychwanegodd Andrew RT Davies:  “Mae’r Prif Weinidog yn honni bod ei lywodraeth yn barod i wrando, ac mae’n cyfaddef nad oes gan Lywodraeth Cymru fonopoli ar yr atebion, ond eto i gyd mae’n gwrando ar Blaid Cymru yn unig.”

Ychwanegodd bod Carwyn Jones yn gwrthod “siarad ag amrywiaeth o leisiau.”

“Rwyf wedi bod yn glir o’r cychwyn bod y Ceidwadwyr Cymreig yn barod i gynnal trafodaethau adeiladol, ac os yw Carwyn Jones wir eisiau siarad dros Gymru yn ei chyfanrwydd, yna rhaid iddo hefyd fod yn barod i ymgysylltu â gwleidyddion a oedd wedi ymgyrchu o ddwy ochr y ddadl.”