Carwyn Jones Llun: Y Blaid Lafur
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi heddiw ei bod yn hanfodol i Gymru barhau â’i mynediad rhydd ar gyfer marchnad sengl Ewrop, er gwaetha’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Daw sylwadau Carwyn Jones wedi ei ymweliad busnes diweddar ag America, lle dywedodd fod y cwmnïau’n pwyso arno am sicrwydd o ran amodau masnachu’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.

‘Perygl o achosi niwed economaidd diangen’

“Roedd eu neges i mi yn glir [y cwmnïau yn America] – maen nhw’n edmygu’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig o ran sgiliau a seilwaith, ond mae’r ansicrwydd ynglŷn â Brexit yn rhwystr sylweddol i fuddsoddwyr erbyn hyn.

“Roedd pob un o’r busnesau eisiau clywed y byddem yn parhau i gael mynediad rhydd a dilyffethair at y farchnad sengl,” meddai.

“Os na fydd Brexit yn cynnwys mynediad at y farchnad sengl, rydyn ni mewn perygl o achosi niwed economaidd diangen i’n gwlad a’n pobl.

“Fy mlaenoriaeth i, felly, yw gwneud yn siŵr ein bod yn diogelu buddiannau Cymru wrth i Brydain drafod ei hymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd. Mae hynny’n cynnwys mynediad rhydd at economi fwyaf y byd. Rhaid i Gymru gael lle wrth y bwrdd trafod, fel y gallwn ni sicrhau’r canlyniad gorau posib i Gymru.”

‘Chwe blaenoriaeth’

Dywedodd felly ei fod yn glynu at y chwe blaenoriaeth i Gymru a amlinellodd wedi canlyniad y refferendwm, sef:

  • Cynnal mynediad at y farchnad sengl
  • Diogelu swyddi
  • Sicrhau rhan lawn Llywodraeth Cymru yn y trafodaethau
  • Diogelu cyllid rhaglenni’r UE yng Nghymru tan 2020
  • Adolygu’r Grant Bloc gan Lywodraeth Prydain
  • Creu perthynas newydd rhwng y Llywodraethau Datganoledig a Llywodraeth y DU ar ôl Brexit.