Carwyn Jones (Llun: Flickr/Cynulliad Cymru)
Mae Prif Weinidog Cymru ar ymweliad ag America’r wythnos hon mewn ymgais i roi “hwb i broffil Cymru yn economi fwya’r byd.”

Dros y pum diwrnod nesaf, fe fydd Carwyn Jones yn cwrdd â gwleidyddion ac arweinwyr busnes yn Atlanta, Cincinnati a Chicago er mwyn denu rhagor o fewnfuddsoddiadau i Gymru.

Daw hyn fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru wrth ymateb i Brexit, ac ychwanega Carwyn Jones:

“Yn dilyn Brexit, mae’n rhaid inni werthu Cymru i’r byd yn fwy nag erioed. Mae’n rhaid i Gymru atgoffa’r byd ein bod yn barod i drafod busnes. Dyna’n union y bydda i’n ei wneud yr wythnos hon yn yr Unol Daleithiau.”

Tynnu sylw at y ‘bartneriaeth’

 

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog annerch Cyngor Chicago ar Faterion Byd-eang ynghylch dyfodol Cymru wedi’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd yn tynnu sylw at y bartneriaeth sydd eisoes yn bodoli rhwng Cymru â gogledd America gyda mwy na 250 o gwmnïau o Ogledd America yn gweithredu yng Nghymru, gan gynnwys GE Aviation, Ford a General Dynamics.

Bydd hefyd yn cyfeirio at fusnesau o Gymru sy’n buddsoddi ac yn masnachu yng Ngogledd America, ynghyd â rhwydwaith o swyddfeydd masnachu a buddsoddi Llywodraeth Cymru yn Washington DC, Dinas Efrog Newydd, San Francisco, Atlanta a Chicago.

‘Gwneud mwy, nid llai’ o ran buddsoddi

Ychwanegodd hefyd fod y mewnfuddsoddi yng Nghymru ar hyn o bryd yn uwch nag y bu mewn 30 mlynedd.

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi cael llwyddiant ysgubol wrth ddenu busnesau byd-eang i Gymru – a chreu swyddi o safon,” meddai.

“Mae cyhoeddiadau gan Aston Martin, MotoNovo, TVR, Essentra, EE a BT wedi dangos bod ein henw da fel gwlad wych i leoli busnes ynddi a masnachu ohoni yn mynd o nerth i nerth.

“Ond mae angen inni wneud mwy i sicrhau rhagor, nid llai, o fuddsoddi yn y dyfodol,” meddai wedyn.

“Fwy nag erioed, mae angen inni fynd ati’n rhagweithiol i hybu Cymru ar lwyfan rhyngwladol, gan atgoffa’r byd fod popeth sydd wedi gwneud Cymru’n wych yn parhau i wneud Cymru’n wych.”

Rhybudd Obama

Yng nghynhadledd gwledydd y G20 ddoe, fe rybuddiodd yr Arlywydd Barack Obama nad cytundeb masnach â Phrydain fydd blaenoriaeth America.

Yn ei gyfarfod cyntaf â Theresa May ers iddi ddod yn Brif Weinidog, dywedodd yr arlywydd ei fod yn gresynu at y bleidlais Brexit ym Mhrydain.

“Ro’n i’n credu cyn y bleidlais Brexit ac yn dal i gredu ar ôl y bleidlais Brexit fod y byd yn elwa’n aruthrol ar gael y Deyrnas Unedig yn chwarae rhan yn yr Undeb Ewropeaidd,” meddai.