Glyn Davies, AS Ceidwadol Sir Drefladwyn Llun: O'i wefan
Mae Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn, Glyn Davies, wedi dweud y bydd yn rhoi’r gorau i’w sedd os yw cynlluniau i newid ffiniau etholaethol yn dod i rym.

Cyhoeddodd yr AS Ceidwadol o Aberriw fod y bwriad i rannu Sir Drefaldwyn yn dair rhan a’i hymuno efo ardaloedd eraill yn “torri ei galon”.

Effaith y newid, yn ôl y gwleidydd, fydd llai o ddemocratiaeth seneddol yn Sir Drefaldwyn a llai o bwyslais ar Aelodau Seneddol yn y gymuned.

Cafodd cynlluniau y Comisiwn Ffiniau i Gymru eu datgelu heddiw i newid strwythur etholaethau seneddol  gan gwtogi nifer yr Aelodau Seneddol yng Nghymru o 40 i 29.

Mewn blog ar ei wefan, dywedodd Glyn Davies: “Mae hyn am chwalu sir hanesyddol Sir Drefaldwyn yn llwyr. Fe fydd yn lladd democratiaeth seneddol yn yr ardal. Fe fydd Aelodau Seneddol yr un mor amlwg yn y gymuned ag y mae Aelodau Seneddol Ewropeaidd rŵan.

“Efallai bod yr arolwg ffiniau yn gwneud synnwyr ystadegol ond mae’n torri fy nghalon i”.

Troi cefn

Ychwanegodd Glyn Davies: “Fe fydd yr etholaeth newydd yn newid byd i lawer iawn yn Sir Drefaldwyn. A’r rheswm am y newid yw bod ASau wedi cymryd mantais o dreuliau flynyddoedd yn ôl – dim byd i’w wneud hefo’r rhan fwyaf o ASau heddiw.

“Os yw’r newidiadau yn dod i rym yn 2018, dyna’r diwedd i mi. Ond nid fi fydd yn gadael gwleidyddiaeth. Gwleidyddiaeth fydd yn fy ngadael i.”