Ty'r Cyffredin Llun: PA
Mae cynlluniau’n cael eu datgelu heddiw i newid strwythur etholaethau seneddol yng Nghymru gan gwtogi nifer yr Aelodau Seneddol.

Mae hyn yn golygu chwalu’r hen ffiniau gan waredu ag 11 AS o Gymru drwy newid ffiniau etholaethol, gan olygu y bydd 29 Aelod Seneddol yn hytrach na 40.

Ymhlith cynlluniau arfaethedig y Comisiwn Ffiniau i Gymru mae uno etholaethau Ynys Môn ac Arfon.

Mae hyn yn rhan o gynllun ehangach ar draws Prydain i gwtogi  nifer yr Aelodau Seneddol o 650 i 600; sy’n golygu gostyngiad o 533 i 501 yn Lloegr, 59 i 53 yn yr Alban a 18 i 17 yng Ngogledd Iwerddon.

Bwriad y cynllun yw adrefnu’r ffiniau etholaethol, a’u gweithredu erbyn yr etholiad cyffredinol nesaf sydd i’w ddisgwyl yn 2020.

Pryder am ‘gydbwysedd democrataidd’

Mae disgwyl i’r toriadau effeithio fwyaf ar ardaloedd lle mae Llafur yn dominyddu, ac un sy’n pryderu am effaith hynny yw Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn.

Dywedodd wrth Golwg360 ei fod yn rhagweld “Llafur yn colli 5 AS yng Nghymru, y Ceidwadwyr yn colli 4, y Democratiaid Rhyddfrydol yn colli 1 a Phlaid Cymru’n colli 1.”

Yn rhinwedd y toriadau, dywedodd y byddai am sicrhau bod cyfle i ethol mwy o Aelodau Cynulliad i Gymru.

“Ar hyn o bryd, dim ond 60 Aelod Cynulliad sydd, ac mae’r gwaith wedi cynyddu’n fawr o ganlyniad i ddatganoli pwerau,” meddai.

Dywedodd ei fod yn poeni hefyd am y cydbwysedd democrataidd wedi’r toriadau, gan gyfeirio at yr Arglwyddi yn Nhŷ’r Arglwyddi.

“Dydy hi ddim yn gwneud synnwyr i dorri nifer y bobol sydd wedi’u hethol yn ddemocrataidd, tra ar yr un pryd yn cynyddu’r nifer sydd heb eu hethol i Dŷ’r Arglwyddi, a hynny mewn ffordd cwbl annemocrataidd.”

O ganlyniad, mae’n galw am gytundeb rhwng y pleidiau i sicrhau cydbwysedd cyn cyflwyno unrhyw doriadau.

Beirniadu

Yn ogystal, mae llefarydd ar ran y Blaid Lafur yng Nghymru wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o ddylunio’r cynllun “i’w mantais wleidyddol eu hunain.”

Mae’r llefarydd yn beirniadu’r honiad y byddai’r cynllun yn arbed £12 miliwn, ac mae’n tynnu sylw at gost ychwanegol o £34 miliwn i gynnal Arglwyddi newydd ac Ymgynghorwyr Arbenigol Gwleidyddol.

‘Pwerau Cymru yn wannach’

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Hywel Williams AS y bydd y blaid yn gwrthwynebu’r newidiadau os nad oes trosglwyddiad sylweddol o bwerau nôl i Gymru:

 

“Er ein bod, mewn egwyddor, yn gefnogol o ymdrechion i leihau nifer yr Aelodau Seneddol, ni ddylai Cymru fod ar ei cholled o’i gymharu â gwledydd eraill y Deyrnas Gyfunol. Fel mae’n sefyll, mae pwerau Cymru yn wannach o lawer na phwerau’r Alban a Gogledd Iwerddon. Mae San Steffan yn dal i fod yn gyfrifol am bolisïau sydd yn effeithio ar Gymru ac mi fydd gan ein gwlad lai o lais os yw’r cynigion yma yn cael eu mabwysiadu.

“Rhaid i unrhyw leihad yng nghynrychiolaeth Cymru gael ei gyd-bwyso â throsglwyddiad y pwerau pwysig yma i Gymru. Mi wnaeth cynrychiolaeth yr Alban gael ei lleihau yn 2005 dim ond mewn ymateb i drosglwyddiad sylweddol o bwerau i’r Alban. Mae San Steffan yn rhwystro Cymru rhag derbyn yr un cyfrifoldebau sydd bellach wedi cael eu trosglwyddo i’r Alban a Gogledd Iwerddon ond eto, mae ein cynrychiolaeth yn San Steffan yn cael ei leihau gan chwarter.”

Mae disgwyl i’r cynllun gael ei drafod yn San Steffan heddiw.

Dyma’r 29 etholaeth arfaethedig yng Nghymru a map o’r ffiniau newydd

1. Ynys Môn ac Arfon

2. Gogledd Clwyd a Gwynedd

3. Colwyn a Chonwy

4. Y Fflint a Rhuddlan

5. Alyn a Glannau Dyfrdwy

6. Wrecsam Maelor

7. De Clwyd a Gogledd Sir Faldwyn

8. Aberhonddu, Maesyfed a Threfaldwyn

9. Sir Fynwy

10. Casnewydd

11. Torfaen

12. Blaenau Gwent

13. Merthyr Tudful a Rhymni

14. Caerffili

15. Cwm Cynon a Phontypridd

16. Rhondda a Llantrisant

17. Gorllewin Caerdydd

18. Gogledd Caerdydd

19. De a Dwyrain Caerdydd

20. Bro Morgannwg

21. Pen-y-bont a Gorllewin Bro Morgannwg

22. Ogwr a Phort Talbot

23. Castell-nedd ac Aberafan

24. Dwyrain Abertawe

25. Gwyr a Gorllewin Abertawe

26. Llanelli a Lliw

27. Caerfyrddin

28. De Sir Benfro

29. Ceredigion a Gogledd Sir Benfro