Safle Wylfa Newydd ar arfordir gogleddol Môn (llun: Horizon)
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi ymuno yn y ffrae rhwng y cwmni sy’n gobeithio datblygu atomfa Wylfa Newydd a chynghorau Gwynedd a Môn.

Fel y datgelwyd ar Golwg360 ddechrau’r wythnos, mae Horizon yn ceisio dileu amod allweddol sy’n ymwneud ag effaith ar y Gymraeg o Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn, gan honni bod yr amod yn ‘anghyson â pholisi cenedlaethol’.

Ond mewn llythyr ar y ddau arolygydd o Lywodraeth Cymru sy’n archwilio’r Cynllun Datblygu Lleol, dywed Comisiynydd y Gymraeg nad yw honiadau Horizon yn gywir.

Mae’r amod y mae Horizon yn ceisio’i ddileu yn ymwneud â hawl awdurdod cynllunio lleol i wrthod cynllun, a fyddai, oherwydd ei faint neu ei leoliad yn ‘achosi niwed arwyddocaol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned’.

Yn ôl y cwmni, gall amod o’r fath fygwth yr holl ddatblygiad.

Canllawiau

Mae’r cwmni’n dadlau hefyd fod yr amod yn anghyson â chanllawiau cynllunio Nodyn Cyngor Technegol 20 Llywodraeth Cymru.

Yn ei llythyr at yr arolygwyr, fodd bynnag, esbonia’r Comisiynydd, Meri Huws, mai rhoi cyngor yw diben nodiadau cyngor technegol, ac na ellir dadlau felly fod Cynllun Datblygu Lleol yn anghyson â pholisi cenedlaethol ar sail anghysondeb rhwng y cynllun a nodyn cyngor technegol.

Aiff ymlaen i nodi bod Deddf Cynllunio (2015) yn ei gwneud yn ofynnol i system gynllunio ‘geisio creu amodau sy’n ffafriol i ddefnydd o’r Gymraeg’.

“Ar sail hynny, credaf fod yr elfennau perthnasol o Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn yn gyson â’r polisi cenedlaethol ar ddefnydd tir yng Nghymru ac anghytunaf â datganiad Horizon i’r gwrthwyneb,” meddai Meri Huws yn ei llythyr.

Llythyr at gynghorwyr

Yn y cyfamser, mae prif weithredwr Horizon wedi anfon llythyr at holl gynghorwyr Sir Fôn yn cyfaddef bod y cwmni “wedi gwneud tipyn o lanast o gyfathrebu” yr wythnos yma.

Mae’n ymddiheuro i’r cynghorwyr am beidio ag esbonio’n iawn rai o’r diwygiadau y maen nhw’n eu ceisio i’r canllawiau cynllunio.

“Roedden ni’n pryderu y gallai geiriad y canllawiau drafft fod wedi arwain at fethu bwrw ymlaen â Wylfa Newydd os oedd unrhyw effaith ar yr iaith Gymraeg mewn unrhyw ardal,” meddai Duncan Hawthorne yn ei lythyr.

Mae’n cydnabod y bydd y gwaith adeiladu’n effeithio ar y Gymraeg ym Môn.

“Allwn ni ddim honni na fydd yna effeithiau i’w rheoli yn ystod y cyfnod adeiladu, gan fod pob prosiect adeiladu mawr ledled y byd angen dod â phobl o’r tu allan i’w cyflawni,” meddai.

Ar yr un pryd, mae’r llythyr, sy’n dwyn y teitl ‘Bydd Wylfa Newydd yn rhoi hwb i’r Gymraeg, nid ei niweidio’ yn dadlau y bydd yr atomfa’n “creu cenedlaethau o gyflogaeth ansawdd uchel i bobl leol sy’n siarad Cymraeg” gan ychwanegu:

“Rydyn ni’n cefnogi’r iaith Gymraeg oherwydd ein bod ni eisiau gwneud hynny, nid dim ond am fod angen i ni wneud hynny.”

‘Ceisio claddu’r gwir’

Mae llythyr Horizon at gynghorwyr Môn wedi cythruddo’r mudiad PAWB, sy’n ymgyrchu yn erbyn codi atomfa newydd ar safle Wylfa.

“Mae Horizon yn ceisio claddu’r gwir yn sinicaiadd gyda ‘spin’ trwsgl iawn,” meddai Dylan Morgan ar ran y mudiad.

“Byddai cael dros 8,000 o weithwyr adeiladu a’u teuluoedd o’r tu allan i Gymru yn byw ym Môn a Gwynedd am o leiaf 10 mlynedd yn gostwng canran y siaradwyr Cymraeg yn ein cymunedau yn ddramatig.

“Pe bai Horizon yn llwyddo i symud y cymal hollbwysig yn y Cynllun Datblygu Lleol am effeithiau posibl ar yr iaith Gymraeg yn ei chadarnleoedd yng ngogledd orllewin Cymru, byddai gennym drychineb cynllunio ar ein dwylo gyda  datblygwyr eiddo yn cael tragwyddol heol i hapfasnachu.”

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio am bresenoldeb cryf mewn gwrandawiad am Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn am 9.30 fore dydd Mawrth yn Neuadd y Penrhyn, Bangor, pryd y bydd PAWB a mudiadau iaith lleol yn cyflwyno tystiolaeth i ddau arolygydd cynllunio o Lywodraeth Cymru.