Safle atomfa Wylfa Newydd ym Môn (llun: Horizon)
Mae’r cwmni sy’n gobeithio datblygu atomfa Wylfa Newydd yn ceisio dileu un o’r amodau allweddol o Gynllun Datblygu Lleol newydd Gwynedd a Môn sy’n ymwneud â diogelu’r Gymraeg.

Fe fydd Horizon yn cyflwyno datganiad mewn gwrandawiad yng Nghaernarfon yr wythnos nesaf, pryd y bydd arolygwyr Llywodraeth Cymru’n archwilio’r Cynllun Datblygu Lleol.

Mae’n nhw’n gofyn yn benodol am ddileu o Bolisi Strategol 1: Iaith a diwylliant Cymraeg y rhan sy’n nodi y bydd y Cynghorau’n:

“Gwrthod cynigion a fyddai oherwydd eu maint, graddfa neu leoliad yn achosi niwed arwyddocaol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned.”

Mae’r cwmni’n honni y bod y polisi yn “rhy gyfyngol”, ac y byddai peidio â’i ddiwygio yn “gallu peryglu cyflenwi prosiect Wylfa Newydd a datblygiadau cysylltiedig”.

Canllawiau Llywodraeth Cymru

Mae Horizon hefyd yn honni bod y polisi hwn yn mynd yn groes i Nodyn Cyngor Technegol TAN 20 sy’n nodi canllawiau Llywodraeth Cymru ar ymdrin â’r Gymraeg mewn polisi cynllunio.

Dywed y cwmni eu bod yn “gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant Cymraeg”.

Dydyn nhw ddim yn gofyn am newid amodau eraill Polisi Strategol 1, sy’n  cynnwys yr angen am ddatganiadau neu asesiad o effaith ieithyddol, arwyddion dwyieithog ac enwau Cymraeg ar ddatblygiadau newydd.

Deellir bod asesiad o effaith ieithyddol Wylfa Newydd eisoes wedi ei gwblhau gan gwmni o ymgynghorwyr cynllunio a gafodd ei gomisiynu gan Horizon, ond nad yw wedi cael ei gyhoeddi eto.

Yn eu datganiad i’r archwiliad, mae’r cwmni’n esbonio na fydd cyfran fawr o’r gweithwyr adeiladu yn bobl leol ac y bydd angen llety i tua 8,000 o weithwyr o’r tu allan pan fydd y gwaith adeiladu ar y brig.