Safle Wylfa Newydd Llun: Horizon
Mae ymgyrchwyr lleol yn bwriadu cynnal protest cyn cyfarfod yr wythnos nesaf i drafod effaith ieithyddol Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn.

Mae Golwg360 yn deall bod mudiad PAWB a Chymdeithas yr Iaith yn bwriadu bod yno i brotestio yn erbyn bwriad cwmni Horizon i ddileu amod yn y cynllun sy’n ymwneud â diogelu’r Gymraeg.

Fe fydd Horizon yn cyflwyno datganiad yn y gwrandawiad ddydd Mawrth, pryd y bydd arolygwyr Llywodraeth Cymru’n archwilio’r Cynllun Datblygu Lleol.

Yn benodol, maen nhw’n gofyn am ddileu amod a fyddai’n golygu bod Cynghorau’n “gwrthod cynigion a fyddai oherwydd eu maint, graddfa neu leoliad yn achosi niwed arwyddocaol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned.”

Hoelen yn arch y Gymraeg?

Yn ôl Dylan Morgan o PAWB (Pobl Atal Wylfa B), byddai prosiect cwmni Horizon i adeiladu ail atomfa niwclear ar Ynys Môn yn “hoelen fawr yn arch y Gymraeg yn llawer o gymunedau Môn.”

“Maen nhw’n cyfaddef yn agored nawr ar anterth yr adeiladu, y gallai fod dros 10,500 o weithwyr ar y safle ac maen nhw’n cydnabod mai rhyw 2,000 ac ychydig fyddai’n teithio o’u cartrefi bob dydd,” meddai wrth Golwg360.

“Mae hwnna’n gadael dros 8,000 o bobol i mewn, mae hynny’n mynd i wanhau canran siaradwyr Cymraeg Ynys Môn yn arwyddocaol.

“Allwch chi gymryd y bydd nifer o’r rheiny yn symud i fyw gyda’u teuluoedd, felly mae 8,000 yn cynyddu tipyn o ran niferoedd wedyn.

“Mae Horizon wedi dangos y gwir bwlis annemocrataidd ydyn nhw, wrth geisio ymyrryd yn uniongyrchol i wanhau Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn.”

Bydd y cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Neuadd y Penrhyn ym Mangor dydd Mawrth, 6 Medi am 9:30 y bore.

Gwrthwynebiad mewn cyfarfod arall

Mae disgwyl gwrthwynebiad i gyfarfod arall sy’n trafod Wylfa Newydd, ar yr un diwrnod am 7 yr hwyr.

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn cynnal y cyfarfod i drigolion lleol yng Nghanolfan Ebeneser, Llangefni am sut gall bobol “gymryd rhan yn y broses gydsynio cynllunio” y prosiect a chynllun y Grid Cenedlaethol i godi llinell newydd o beilonau yn sgil Wylfa.

Dywedodd Dylan Morgan y bydd pobol yn y cyfarfod i sicrhau bod yr Arolygiaeth yn deall bod gwrthwynebiad i’r cynllun.

Ymgynghoriad “ffug”

Dydd Mercher fe wnaeth Horizon lansio ei ail ymgynghoriad ar godi’r atomfa ond yn ôl Dylan Morgan “ffug ymgynghoriad” yw’r cwbl.

“Maen nhw unwaith eto yn osgoi fel y pla yn y llyfryn glossy yma maen nhw wedi cynhyrchu (fel rhan o’r ymgynghoriad), i roi unrhyw gyfeiriad at wastraff ymbelydrol a lle byddan nhw’n gorfod ei gadw fe am o leiaf 160 o flynyddoedd,” meddai.

“Mae hyn yn drahaus ac yn twyllo pobol yn gwbl fwriadol a sinigaidd.”

Mae Horizon fodd bynnag nodi yn ei lyfryn ymgynghori mai yng nghornel dde-orllewinol y safle y maen nhw’n ffafrio dros storio’r gwastraff am 140 flynyddoedd.

Mae hyn “am fod mynediad da iddo ar gyfer cludo’r gwastraff, am y bydd llai o effaith ar yr amgylchedd ac am ei fod yn bodloni ystyriaethau eraill o natur dechnegol a rheoliadol,” meddai’r cwmni.

“Bydd yr adeiladau storio gwastraff ymbelydrol yn cael eu codi mewn pryd i gymryd y gwastraff perthnasol, sef rhwng dwy a deng mlynedd ar ôl dechrau gweithrediadau.”