Safle Wylfa Newydd Llun: Horizon
Bydd gan drigolion gogledd Cymru gyfle dros yr wythnosau nesaf i leisio eu barn am gynlluniau i adeiladu ail atomfa niwclear ar Ynys Môn wrth i gwmni Horizon lansio ei ail ymgynghoriad ar y pwnc.
Mae’r ymgynghoriad ar “gynlluniau diwygiedig” y cwmni yn agor heddiw ac yn cau ar 25 Hydref eleni.
Mae Horizon yn gobeithio cyflwyno cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu yn 2017, a dyma’r ymgynghoriad swyddogol olaf ar y gwaith tan i’r cwmni wneud hynny.
Mae’r ymgynghoriad yn gofyn barn ynghylch safle llety gweithwyr dros dro, effaith y prosiect ar yr amgylchedd a materion yn ymwneud â’r Gymraeg.
‘Dileu amod allweddol’
Mae Horizon yn ceisio dileu un o’r amodau allweddol o Gynllun Datblygu Lleol newydd Gwynedd a Môn sy’n ymwneud â diogelu’r Gymraeg.
Mae’n nhw’n gofyn yn benodol am ddileu o Bolisi Strategol 1: Iaith a diwylliant Cymraeg y rhan sy’n nodi y bydd y Cynghorau’n “gwrthod cynigion a fyddai oherwydd eu maint, graddfa neu leoliad yn achosi niwed arwyddocaol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned.”
Mae’r cwmni’n honni bod y polisi yn “rhy gyfyngol”, ac y byddai peidio â’i ddiwygio yn “gallu peryglu cyflenwi prosiect Wylfa Newydd a datblygiadau cysylltiedig”.
Ymgynghoriad
Mae modd cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein a bydd Horizon yn cynnal arddangosfeydd cyhoeddus mewn lleoliadau ar draws gogledd Cymru.
Bydd hefyd sesiynau galw heibio ym maes parcio’r Douglas Inn yn Nhregele rhwng 11 y bore a 2 y prynhawn yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Dyma ddyddiadau’r arddangosfeydd cyhoeddus:
Dydd Mawrth 6 Medi
1yp – 7yp
Clwb Cymdeithasol a Chwaraeon Wylfa, Gorsaf Bŵer Wylfa, Bae Cemaes
Dydd Mercher 7 Medi
1yp – 7yp
Neuadd Bentref Cemaes, Stryd Fawr, Cemaes
Dydd Gwener 9 Medi
1yp – 7yp
Maes parcio’r Douglas Inn, Tregele, Bae Cemaes
Dydd Sadwrn 10 Medi
10yb – 1yp
Neuadd Goffa Amlwch, 18 Stryd y Farchnad, Amlwch
Dydd Mawrth 13 Medi
1yp – 7yp
Neuadd Bentref Llanfachraeth, Tŷ Newydd Green, Llanfachraeth
Dydd Gwener 16 Medi
1yp – 7yp
Tŷ Coffi Griffith Reade, Llanfaethlu
Dydd Sadwrn 17 Medi
10yb – 1yp
Neuadd y Dref Llangefni, Sgwâr Buckley, Llangefni
Dydd Llun 26 Medi
1yp – 7yp
Canolfan Gymunedol Rhosybol, Yr Ysgol, Rhosybol
Dydd Mawrth 27 Medi
1yp – 7yp
Canolfan Ucheldre, Mill Bank, Caergybi
Dydd Iau 29 Medi
1yp – 7yp
Gwesty’r Celtic Royal, Stryd Bangor, Caernarfon
Dydd Sadwrn 1 Hydref
10yb – 1yp
Canolfan Hamdden Glaslyn, Stryd y Llan, Porthmadog
Dydd Llun 3 Hydref
1yp – 7yp
Gwesty The Valley Anglesey, Ffordd Llundain, y Fali
Dydd Sadwrn 8 Hydref
10yb – 1yp
Neuadd Penrhyn, Ffordd Gwynedd, Bangor
Dydd Llun 10 Hydref
1yp – 7yp
Canolfan Gymunedol Thomas Telford, Ffordd Mona, Porthaethwy
Dydd Iau 13 Hydref
1yp – 7yp
Eglwys Santes Fair, Stryd Rosehill, Conwy