Mae Gweinidogion yn Nhŷ’r Cyffredin y prynhawn yma wedi gwrthod galwadau i rannu awdurdodaeth gyfreithiol Cymru a Lloegr.

Ar hyn o bryd, mae’r ddwy wlad yn rhannu’r un system gyfiawnder, ond bu galwadau i’w i gael system ar wahan i Gymru oherwydd pryderon bod “gwahaniaethau”  yn datblygu yng nghyfraith y ddwy wlad.

Fe gynigiodd Plaid Cymru y dylid diwygio Mesur Cymru i greu dau awdurdod ar wahân fyddai’n golygu creu dwy system llysoedd gydag uchel lys a llys yr apêl eu hunain.

Ond, cafodd y cynnig hwnnw ei wrthod gyda mwyafrif o 229 pleidlais, a chafodd cynnig Llafur i gadw golwg ar system gyfreithiol Cymru ei wrthod gyda 57 pleidlais.

‘Rheswm ymarferol’

Rhybuddiodd Liz Saville Roberts, AS Plaid Cymru y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i wynebu heriau cyfreithiol wrth iddynt geisio cymeradwyo deddfau yn y dyfodol wrth barhau o dan yr un drefn.

“Os oes yna angen ymarferol i barhau o dan system gyfreithiol unedig efallai y byddai gwerth cyfaddawdu rhywle arall yn y Mesur. Ond, dw i’n dal i aros am reswm ymarferol go iawn tros wneud hynny,” meddai Liz Saville Roberts.

‘Dim consensws gwleidyddol’

Yn y cyfamser ychwanegodd Paul Flynn, sydd newydd ei benodi yn llefarydd Llafur ar Gymru fod hwn yn fater “sylfaenol” i’w ystyried.

“Rwy’n credu ei bod hi’n gwbl amhosibl dadlau dros gadw’r awdurdodaeth unedig pan fydd y gyfraith droseddol a phreifat yng Nghymru a Lloegr yn dargyfeirio fwy fyth o ganlyniad i ddeddfwriaeth y Cynulliad,” meddai.

Er hyn roedd Guto Bebb, AS y Ceidwadwyr, yn dadlau nad oes “consensws gwleidyddol” i’r mater o ddatganoli cyfiawnder.

“Mae’r Llywodraeth yn llwyr ymrwymedig i gynnal yr un awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru a Lloegr – mae wedi gwasanaethu Cymru’n dda,” meddai.