Paul Flynn, (Llun: O wefan yr AS)
Yr Aelod Seneddol Llafur dros Gasnewydd, Paul Flynn, sydd wedi’i benodi fel llefarydd yr wrthblaid ar Gymru yn Nhŷ’r Cyffredin.

Fe ymunodd y gwleidydd 81 oed â chabinet Jeremy Corbyn yr wythnos ddiwethaf fel arweinydd Llafur y Tŷ, ac mae bellach yn gyfrifol am bortffolio Cymru hefyd.

Nid yw Paul Flynn, fydd yn olynu Nia Griffith, wedi bod yn aelod o’r meinciau blaen ers 1990, ar ôl ymddiswyddo o gabinet yr arweinydd ar y pryd, Neil Kinnock.

Daw hyn yn dilyn wythnos gythryblus i Lafur, wrth i’r rhan fwyaf o gabinet cysgodol Jeremy Corbyn ymddiswyddo a’r mwyafrif o ASau gynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn ei allu fel arweinydd.

Mae arweinydd y blaid Lafur yn cael ei gyhuddo o beidio â dadlau’n ddigonol dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Corbyn ‘am aros’ tan Chilcot

Fodd bynnag, mae Jeremy Corbyn wedi dal ei dir hyd yn hyn, ac wedi gwrthod galwadau arno i ymddiswyddo, gyda sôn ei fod yn bwriadu aros tan i adroddiad Chilcot cael ei gyhoeddi.

Bydd yr adroddiad gan Syr John Chilcot, sydd wedi cymryd chwe blynedd i’w gwblhau, yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher.

Bydd yr adroddiad yn edrych i amgylchiadau rhyfel Irac rhwng 2003 a 2009 a laddodd 179 o Brydeinwyr.

Mae disgwyl y bydd y sylw ar y Prif Weinidog ar y pryd, Tony Blair, sydd wedi cael ei gyhuddo gan rai o gyflawni troseddau rhyfel.

Mae Canghellor yr wrthblaid, John McDonnell, wedi gwrthod diystyru’r posibilrwydd y byddai’n cael ei roi ar brawf am droseddau o’r fath.

Mae rhai o deuluoedd y milwyr gafodd eu lladd wedi dweud y byddan nhw’n ‘boicotio’r’ adroddiad, gan eu bod yn credu y bydd yn “celu’r gwir.”