Traffordd yr M4
Fe fydd manylion ymchwiliad cyhoeddus ffordd osgoi’r M4 o amgylch Casnewydd yn cael eu cyhoeddi mewn datganiad yn y Senedd y prynhawn yma.
Mae disgwyl i Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, amlygu dyddiad a maint yr ymchwiliad cyhoeddus i gynllun fydd yn ceisio lleihau tagfeydd traffig y de – ond mae wedi ennyn ymateb chwyrn ymysg pleidiau a mudiadau amgylcheddol.
Mae Llywodraeth Cymru yn ffafrio opsiwn y llwybr du, sy’n cynnwys creu traffordd tair lôn i’r de o Gasnewydd rhwng Magwyr a Chas-bach a allai gostio £1.1 biliwn ar amcangyfrif.
Yr wythnos diwethaf, fe anfonodd gynrychiolwyr o elusennau amgylcheddol Cymru lythyr at Ysgrifennydd yr Economi yn galw arno i ailystyried y cynlluniau, gan fynegi pryder y byddai’r ffordd yn amharu ar fywyd gwyllt Gwastadeddau Gwent sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Y llwybr glas
Mae Plaid Cymru eisoes wedi mynegi eu gwrthwynebiad i’r llwybr du, gan ddweud eu bod yn ffafrio dewis rhatach.
Dewis arall yw’r llwybr glas, a fyddai’n creu ffordd ddeuol newydd drwy ddefnyddio Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol Casnewydd ar yr A48 a hen ffordd y gwaith dur ar ochr ddwyreiniol Casnewydd.