M4
Mae rhai o elusennau amgylcheddol Cymru wedi anfon llythyr at Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith Llywodraeth Cymru yn galw arno i ailystyried cynlluniau ffordd osgoi’r M4 o gylch Casnewydd.

Mae’r elusennau’n cynnwys Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru, Cyfeillion y Ddaear Cymru, RSPB Cymru, Sustrans Cymru, Coed Cymru a Buglife ymhlith eraill.

Maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r gorau i ddatblygu cynllun dadleuol y llwybr du sydd wedi’i amcangyfrif i gostio £1.1 biliwn.

Mae’r llythyr yn pwysleisio y byddai’r cynllun yn adeiladu ffordd ar draws Wastadeddau Gwent sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

“Mae’r cynllun arfaethedig yn cynrychioli dirywiad ar raddfa ddigynsail ac un o’r datblygiadau mwyaf niweidiol yn hanes diweddar.”

‘Creulon a di-droi’n-ôl’

Mae’r llythyr hefyd yn nodi fod gan nifer o rywogaethau arbennig gynefinoedd yn yr ardal, gan gynnwys adar y dŵr, dyfrgwn, llygod y dŵr, ystlumod ac infertebratau prin.

“Byddai colli eu cynefin, ynghyd â’r effaith weledol ar dirwedd Gwastadeddau Gwent a’r amgylchfyd yn greulon a hefyd yn ddi-droi’n-ôl.”

Mae’r llythyr felly’n galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ffyrdd o wella trafnidiaeth gyhoeddus a chysylltiadau trên yr ardal er mwyn delio â thraffig trwm y de.

Yn ogystal, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyflwyno llythyr 95 tudalen yn gwrthwynebu’r cynllun.

‘Ymrwymedig i’r ffordd’

Mewn ymateb i’r llythyr, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith, Ken Skates, fod Llywodraeth Cymru “yn ymrwymedig i’r ffordd.”

Er hyn, dywedodd ei fod am glywed gan y cyhoedd wrth i drafodaethau’r cynllun barhau.

“Rwy’n awyddus y dylem barhau ag ymchwiliad cyhoeddus cyn gynted â phosib er mwyn gallu penderfynu ac adolygu’r opsiynau sydd ar gael ynghyd ag archwilio a oes unrhyw opsiynau eraill yn bosibl.”