Huw Jones, cadeirydd Awdurdod S4C Llun: S4C
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi codi pryderon y gallai newidiadau i’r BBC ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Prydain, “fygwth annibyniaeth” S4C.

Er hyn, wrth ymateb i’r Papur Gwyn, dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, ei fod yn croesawu’r “cyfeiriad penodol a chefnogol at S4C” sydd yn y ddogfen.

Mae’r ddogfen yn nodi hawl y BBC i newid ei gyfraniad ariannol i S4C.

Mae hyn, yn ôl y mudiad iaith, yn tanseilio annibyniaeth y sianel, gan godi pryderon hefyd nad oes addewid, a wnaed gan Lywodraeth Prydain ym mis Gorffennaf 2015, yn y Papur Gwyn i “dalu am y diffyg” os bydd y BBC yn penderfynu lleihau cyllideb y sianel.

Yn sgil y pryderon, “mae angen datganoli darlledu i Gymru”, meddai Cymdeithas yr Iaith, er ei bod yn cydnabod y bydd adolygiad ar S4C yn 2017.

‘Peryg mawr’

“Mae ’na beryg mawr y gallai hyn osod cynsail ar gyfer toriadau pellach i’r darlledwr, ac iddi gael ei draflyncu gan y BBC,” meddai Curon Wyn Davies, Cadeirydd Grŵp Digidol y mudiad.

“Mae wir yn bryder nad oes sôn am addewid y Llywodraeth na fyddai cwtogiad pellach i gyllideb S4C.

“Mae creu un bwrdd ar gyfer y BBC yn codi cwestiynau mawrion – sut allai’r penderfyniad am arian y ffi drwydded, ar gyfer ein hunig sianel deledu, gael ei gymryd yn annibynnol?”

S4C yn croesawu “parhad annibyniaeth”

Er hynny, dydy S4C ddim i’w gweld yn rhannu’r un pryderon â’r mudiad iaith, ar ôl i Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod y sianel, groesawu’r ddogfen.

“Mae’r cyfeiriadau at sicrhau parhad annibyniaeth S4C dan y drefn newydd, ynghyd â’r bwriad i sicrhau eglurder a sicrwydd cyllido ar gyfer y gwasanaeth, i’w croesawu’n fawr,” meddai.

“Yn naturiol, bydd disgwyl i’r Adolygiad annibynnol o S4C, sydd i’w gynnal yn 2017, roi sylw mwy manwl i sut yn union y mae hyn yn mynd i gael ei wireddu yn y tymor hir ac fe fyddwn yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn y drafodaeth gyhoeddus ynglŷn â’r materion hyn pan ddaw’r amser.”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, John Whittingdale ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, i fynegi eu pryderon.