Yr Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale
Fe fydd yn rhaid i’r BBC gyhoeddi’r cyflogau uchaf y maen nhw’n ei dalu o dan gynlluniau’r Llywodraeth i ddiwygio’r darlledwr cyhoeddus.

Fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant John Whittingdale y byddai’n rhaid cyhoeddi enwau unrhyw un oedd yn cael cyflog o dros £450,000, wrth iddo ddatgelu’r Papur Gwyn ar ddyfodol y gorfforaeth.

Bydd bwrdd unedol newydd hefyd yn cael ei sefydlu er mwyn goruchwylio gwaith y BBC, gydag Ofcom yn ei rheoleiddio a mwyafrif yr aelodau fydd yn cael eu penodi yn rai annibynnol o’r llywodraeth.

Mae’r Papur Gwyn hefyd yn dweud y dylai pobol orfod talu ffi’r drwydded i wylio gwasanaethau fel iPlayer o hyn ymlaen, gan annog y BBC hefyd i ganolbwyntio mwy ar gynnwys o safon yn hytrach na nifer y  gwylwyr.

‘Tryloywder’

Dywedodd John Whittingdale fod y “newidiadau sylweddol”, gan gynnwys gofyn i’r gorfforaeth ddatgelu’r cyflogau uchaf, yn hanfodol er mwyn sicrhau tryloywder.

“Mae gan y cyhoedd hawl i wybod faint mae’r rheiny sydd ar y cyflogau mwyaf gan y BBC yn cael eu talu allan o’u ffi drwydded,” meddai’r Ysgrifennydd Diwylliant.

“Bydd y siarter newydd felly yn galw ar y BBC i fynd ymhellach o ran tryloywder pan mae’n dod at faint maen nhw’n talu eu talent.”

Cafwyd croeso i’r Papur Gwyn gan Reolwr-Gyfarwyddwr y BBC Tony Hall, a ddywedodd ei fod yn rhoi mandad ar gyfer “BBC gref a chreadigol”.

“Mae gennym ni Siarter 11 mlynedd, ffi drwydded wedi’i gwarantu am 11 mlynedd, a chymeradwyaeth o faint a sgôp y gwaith mae’r BBC yn ei wneud heddiw,” meddai.

“Mae’r Papur Gwyn yn ailddatgan ein bwriad i addysgu a diddanu pob cynulleidfa ar deledu, radio ac ar-lein.”

Prif bwyntiau’r Papur Gwyn

*Mwy o dryloywder ar sut mae’r gorfforaeth yn gwario’i chyllideb, a chyflogau’r rheiny sydd yn ennill mwy  na £450,000;

*Siarter sydd yn para 11 mlynedd, yn hytrach na 10 mlynedd, er mwyn iddi beidio ag amharu ar y cylch etholiadol;

*Y Swyddfa Archwiliadau Cenedlaethol i archwilio cyllidebau’r BBC;

*Cadw’r ffi drwydded a’i chynyddu yn unol â chwyddiant hyd nes 2021/22;

*Rheidrwydd ar bobol i gael trwydded deledu cyn gallu gwylio gwasanaethau iPlayer;

*Angen newydd i’r darlledwr ddarparu “cynnwys gwahanol” yn hytrach na dim ond canolbwyntio ar ffigyrau gwylio;

*Bwrdd unedol newydd, gyda mwyafrif o’i haelodau yn annibynnol o’r llywodraeth, ac Ofcom yn rheoleiddio;

*Cadeirydd y BBC Rona Fairhead i aros yn ei swydd tan ddiwedd ei thymor yn 2018.