Carwyn Jones
Mae Llafur yn gwadu honiadau y bydd yn dod i gytundeb gydag Ukip fel bod Carwyn Jones yn gallu cael ei ail-benodi’n Brif Weinidog Cymru.

Mewn tro annisgwyl yn y Cynulliad ddoe, cafodd Carwyn Jones ei atal rhag cael ei benodi’n Brif Weinidog ar ôl i’r rhan fwyaf o’r gwrthbleidiau bleidleisio o blaid arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn lle.

Cafodd y ddau 29 pleidlais yr un – gydag unig Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams yn pleidleisio o blaid Carwyn Jones.

Mae gan ACau hyd at bedair wythnos i ddatrys y sefyllfa, neu wynebu’r posibilrwydd o gynnal etholiad arall.

‘Nonsens’

Ond mae ’na ddyfalu bod Llafur yn cynnal trafodaethau ffurfiol gyda’r pleidiau eraill, yn ogystal â honiadau  y byddai ACau Ukip, Nathan Gill a Mark Reckless yn cefnogi Carwyn Jones mewn pleidlais newydd.

Wfftio hynny mae Llafur gan ddweud mai “nonsens” yw’r dyfalu.

Dywedodd llefarydd: “Nid oes unrhyw drafodaethau ffurfiol gydag unrhyw blaid… yn bendant nid Ukip.

“Roedd Nathan Gill fel bron pob AC arall, eisiau siarad â’r Prif Weinidog ddoe. Nid oedd y Prif Weinidog ar gael, felly fe wnaeth siarad gydag aelod arall o’r grŵp.

“Dros y dyddiau nesaf fe fyddwn ni yn siarad ag ACau o bobl plaid er mwyn sicrhau bod gan Gymru llywodraeth sefydlog mor fuan â phosib.

“Ond nid oes unrhyw gytundeb gyda Nathan Gill na Ukip fel sydd wedi ei awgrymu.”

Cefndir

Cafodd Carwyn Jones, 48, ei benodi’n Brif Weinidog yn 2009 gan olynu Rhodri Morgan.

Mae wedi goroesi dau etholiad ac fe enillodd y Blaid Lafur 29 sedd yn etholiadau’r Cynulliad wythnos ddiwethaf – dwy yn brin i sicrhau mwyafrif, gyda Phlaid Cymru yn ail gyda 12 AC.

Mae Carwyn Jones wedi awgrymu ei fod am ffurfio llywodraeth leiafrifol ac mae ffynonellau wedi dweud nad oes ganddo ddiddordeb mewn ffurfio Clymblaid gyda Phlaid Cymru.

Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru wedi gwadu dod i gytundeb gyda’r Ceidwadwyr Cymreig ac Ukip.

Fe fydd Carwyn Jones yn parhau’n Brif Weinidog nes bod ACau yn pleidleisio i’w ail-benodi neu ei ddisodli.