Rhun ap Iorwerth
Yn dilyn holl ddrama’r Senedd ddoe, mae Plaid Cymru wedi amddiffyn eu penderfyniad i atal Carwyn Jones rhag cael ei benodi’n Brif Weinidog.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth wrth golwg360, bod Plaid Cymru wedi galw ar Lafur  i “oedi cyn bwrw ymlaen i ffurfio llywodraeth”.

Fe wnaeth amddiffyn y penderfyniad i enwebu Leanne Wood am  swydd y Prif Weinidog, gan ddweud fod y blaid wedi gwneud “beth fydden i’n disgwyl i unrhyw blaid ei wneud”.

“Dyna’r unig bleidlais sydd ’na, ar bwy ’dan ni fel Aelodau’r Cynulliad yn meddwl dylai fod yn Brif Weinidog,” meddai’r Aelod Cynulliad dros Ynys Môn.

“Mi oedd pob plaid yn ymwybodol gan ein bod ni wedi dweud wrthyn nhw, gan gynnwys Carwyn Jones, y byddai enw Leanne Wood yn mynd ymlaen,” meddai.

‘Rhaid i Lafur feddwl yn ofalus’

Mae Plaid Cymru yn anhapus â Carwyn Jones ar ôl iddo gynnal pleidlais am y Prif Weinidog yn syth, a hynny heb “drafod digon” o ystyried mai llywodraeth leiafrifol sydd gan Lafur.

“Mi fydd rhaid i Lafur feddwl yn ofalus iawn sut maen nhw am lywodraethu, os llywodraethu, mewn ffordd sy’n adlewyrchu’r ffaith mai lleiafrif ydyn nhw,” ychwanegodd Rhun ap Iorwerth.

“Dach chi’n rhyw gymryd yn ganiataol dach chi’n mynd i ennill, ond nid fel’na mae llywodraeth leiafrifol yn gweithio.

“Mi gynigion ni [ddydd Mawrth] wrthyn nhw, ‘Beth am gymryd rhagor o amser cyn cynnal y bleidlais?’ Yna, mi benderfynon nhw [ddydd Mercher] beidio cymryd yr amser yna i gael rhagor o drafodaethau efo ni ac eraill, o bosib, ynglŷn â ffurf llywodraethiant Cymru yn y blynyddoedd nesaf.”

Ychwanegodd: “Yr hyn sy’n bwysig rŵan ydy bod Llafur yn gorfod adlewyrchu ac ystyried yn fanwl eu bod nhw wedi gweld yn fan hyn nad oes ganddyn nhw fwyafrif.”

Dywedodd nad yw pobol Cymru wedi ethol yr un blaid â mwyafrif “ac felly mae unrhyw blaid sy’n llywodraethu yn gorfod sylweddoli hynny, adlewyrchu hynny a pheidio ymddwyn mewn ffordd lle maen nhw’n smalio bod ganddyn nhw fwyafrif.”

Y cefndir

Roedd disgwyl mai Carwyn Jones, arweinydd Llafur Cymru, fyddai’n cael ei ethol yn Brif Weinidog gan Aelodau Cynulliad ddoe, ond cafodd yr un nifer o bleidleisiau â Leanne Wood, ar ôl i Blaid Cymru ei henwebu am y swydd.

Bu ebychiadau, yn enwedig o rengoedd Llafur, pan wnaeth bob un o ACau y Ceidwadwyr a UKIP bleidleisio dros Leanne Wood hefyd.

Kirsty Williams, yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol sydd yn y Bae erbyn hyn, oedd y bleidlais dyngedfennol, ac wrth roi ei phleidlais i Carwyn Jones, roedd gan y ddau 29 o bleidleisiau.

Mae Plaid Cymru wedi gwrthod honiadau ei bod wedi cydweithio â phleidiau asgell dde’r Cynulliad, rhywbeth y mae Leanne Wood wedi dweud yn y gorffennol na fyddai byth yn ei wneud.

“Doedd ’na ddim unrhyw fath o gytundeb rhwng Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr, ac yn sicr ddim UKIP, ynglŷn â’r bleidlais. Mi fyddai’n rhaid i chi siarad efo nhw ynglŷn â pham ddewison nhw gefnogi enwebiad Leanne Wood,” meddai Rhun ap Iorwerth.

Angen i Lafur ‘ddysgu trin a thrafod’

Dywedodd Lleu Williams, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, fod enwebu Leanne Wood wedi bod yn “hollol annisgwyl”, ond y bydd yn rhaid i Lafur ddysgu gwersi.

“Cafodd Llafur amser gweddol hawdd yn y Cynulliad diwethaf gan chwarae Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn erbyn ei gilydd er mwyn cael cefnogaeth i basio deddfwriaeth a’r gyllideb,” meddai.

“Bwriad Plaid Cymru a’r gwrthbleidiau heddiw oedd dangos i Lafur na fydd hi mor hawdd yn y pumed Cynulliad ac nad ydyn nhw yn bwriadu ei gwneud hi’n hawdd chwaith.

“Mae digwyddiadau ddoe yn dangos y bydd rhaid i Lafur ddysgu trin a thrafod â Kirsty Williams a Phlaid Cymru yn y dyfodol neu gael problemau mawr wrth geisio pasio deddfwriaeth a’r gyllideb.”