Rhun ap Iorwerth (Llun Cyulliad)
Roedd Plaid Cymru wedi aberthu mesur pwysig o ran iechyd cyhoeddus oherwydd un sylw personol, meddai llefarwyr y Blaid Lafur.

Roedd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn cyhuddo’r Blaid o ymddygiad “plentynnaidd” mewn pleidlais yn y Cynulliad neithiwr.

Ond mae Plaid Cymru wedi taro’n ôl gan gyhuddo un o’r gweinidogion Llafur o ddiraddio trafodaethau gwleidyddol difrifol.

Y ffrae

Canlyniad yr helynt oedd fod y Bil Iechyd Cyhoeddus wedi methu o un bleidlais, a hynny’n cynnwys gwaharddiad ar e-smygu mewn mannau cyhoeddus.

Achos y ffrae oedd sylw a wnaeth y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, yn galw Plaid Cymru yn “cheap date” wrth gytuno i gefnogi’r Llywodraeth tros ddeddf llywodraeth leol.

Yn ôl Plaid Cymru, roedd hynny’n diraddio’r trafodaethau sy’n digwydd rhwng pleidiau a’i gilydd ac, yn ôl AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, roedd llawer o aelodau Llafur hefyd yn flin am y sylwadau.

Fe ddywedodd hefyd fod Plaid Cymru wedi cynnig cefnogi gweddill y Bil – heblaw am yr e-smygu – ond fod Llafur wedi gwrthod hynny.

‘Amhosib cyfiawnhau’

Heddiw, fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething,  y byddai’n well pe bai sylwadau Leighton Andrews heb eu dweud ond mai’r prif bwnc oedd ymateb Plaid Cymru.

“Allwch chi ddim cyfiawnhau’r ymateb,” meddai wrth Radio Wales, gan ddweud hefyd fod Leighton Andrews wedi cynnig ymddiheuro.

Y tu cefn i’r ffrae mae’r tebygrwydd y bydd Plaid Cymru a Llafur yn gorfod trafod cydweithio ar ól yr etholiad nesa’.