Leighton Andrews (Llun y Cynulliad)
Fe fethodd ymgais Llywodraeth Cymru i wahardd smocio e-sigarennau mewn mannau cyhoeddus ar ôl i Aelodau Cynulliad Plaid Cymru benderfynu gwrthwynebu ar y funud ola’.

Roedd hynny ar ôl i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, eu gwawdio yn ystod y ddadl gan achosi ymateb ffyrnig.

Roedd Plaid Cymru wedi bod yn trafod gyda’r Llywodraeth ond, yn y diwedd, fe bleidleisiodd y cyfan yn erbyn y Bil Iechyd Cyhoeddus a oedd hefyd yn cynnwys rheolau newydd ar gyfer siopau tatŵio.

Fe gafodd y Bil ei guro o un bleidlais.

Y ffrae

Yn ei araith, roedd Leighton Andrews wedi gwawdio Plaid Cymru am gefnogi’r Llywodraeth tros y Ddeddf Llywodraeth Leol gan ddweud eu bod yn “cheap date”.

Fe ymatebodd un o aelodau Cabinet y Blaid, Simon Thomas, trwy ddweud y byddai’r Gweinidog yn difaru am ei sylwadau ymhen ychydig fisoedd.

Yn union wedyn, roedd Simon Thomas wedi trydar bod Plaid Cymru wedi “dangos eu hawdurdod” a’u gallu i fod yn ddewis arall yn lle Llafur i lywodraethu Cymru.

‘Tanseilio’

Ers hynny, mae’r Gweinidg Iechyd, Mark Drakeford, wedi cyhuddo Plaid Cymru o danseilio mesur a fyddai wedi gwneud gwahaniaeth pwysig ym maes iechyd cyhoeddus.