Yn dilyn beirniadaeth gref, mae S4C wedi dweud na fydd yn “troi cefn” ar ddarparu gwasanaeth Cymraeg wrth amddiffyn y penderfyniad i osod is-deitlau Saesneg awtomatig ar raglenni poblogaidd  drosyr wythnos hon.

Ddoe, cafodd y Sianel ei chyhuddo o “gamarwain” pobol Cymry gan Dyfodol i’r Iaith, oedd yn honni bod tystiolaeth yn strategaeth S4C yn dangos bod yr ymgyrch “dros dro” yn gam i ddwyieithogi’r Sianel.

Yn y ddogfen, S4C: Edrych i’r Dyfodol, mae’r Sianel yn dweud “bod modd arbrofi ymhellach gydag is-deitlau agored, ond heb wneud hynny’n arferiad ar bob rhaglen”, gan nodi bod lle i ystyried rhoi is-deitlau parhaol Saesneg ar raglenni sy’n cael eu darlledu ar ôl 10.

Hollol gyson

Mewn datganiad i golwg360, dywed S4C ei bod yn nodi’n glir yn ei strategaeth na fydd yn “troi cefn” ar ei “chenhadaeth sylfaenol” o ddarparu gwasanaeth Cymraeg.

“Mae’r ymgyrch yma yn hollol gyson gyda’r hyn sydd yn y ddogfen, lle nodir ein bwriad i ‘wneud mwy i hysbysebu’r ffaith fod isdeitlau yn rhwydd i’r rhai sydd am eu defnyddio’,” meddai llefarydd ar ran y Sianel.

Is-deitlo yn “denu cynulleidfa wahanol”

Dywedodd y Sianel mai nod yr ymgyrch, sydd wedi codi gwrychyn sawl un, yw “denu sylw” at y gwasanaeth is-deitlo Saesneg sydd ar gael.

“Mae S4C wedi defnyddio isdeitlau agored ers sawl blwyddyn, er enghraifft ailddarllediadau dramâu ac ailddarllediadau rhai dogfennau yn hwyr ar nos Sul. Mae’r ailddarllediadau yma yn denu cynulleidfa wahanol,” ychwanegodd y llefarydd.

“Mae adborth y gynulleidfa yn bwysig iawn i S4C, ac rydym yn gwerthfawrogi sylwadau rydym wedi eu derbyn.”