(Llun: $4C)
Mae S4C wedi ymateb i’r cwynion am ei bwriad i is-deitlo ei holl raglenni yr wythnos nesaf trwy bwysleisio mai ymgyrch am bum niwrnod yn unig fydd hyn.

Roedd rhai o wylwyr S4C wedi dweud y byddan nhw’n boicotio’r sianel yr wythnos nesaf mewn protest ynglŷn ag isdeitlau Saesneg ar rai rhaglenni.

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C; “Ry’ ni’n diolch i bawb sydd wedi cysylltu gyda ni i rannu barn am yr ymgyrch yma. Mae’n dda clywed trafodaeth angerddol am y sianel.

“Rwy’n pwysleisio mai ymgyrch am bum niwrnod yn unig yw hyn. Does dim angen pryderu a does dim bwriad cyflwyno isdeitlau yn awtomatig yn barhaol. Ar ôl wythnos nesaf, byddwn yn ôl i’r drefn arferol ac yn annog pobl sydd eisiau ei defnyddio i’w troi ymlaen, ac i gysylltu â ni am gymorth.

“Nid pob rhaglen fydd yn dangos isdeitlau Saesneg awtomatig wythnos nesaf, ac fe allwch wylio pob rhaglen ar alw ar-lein heb yr isdeitlau.”

Roedd  y sianel Gymraeg wedi cyhoeddi y byddai’r isdeitlau yn cael eu gosod ar waelod rhai rhaglenni am bum diwrnod fel rhan o arbrawf er mwyn ceisio hyrwyddo’r sianel i wylwyr di-Gymraeg.

Ond mae hynny wedi codi gwrychyn nifer gan gynnwys yr ymgyrchydd iaith Simon Brooks, sydd wedi cyhuddo S4C o geisio “mynd yn sianel ddwyieithog”.

‘Cymryd gwylwyr craidd yn ganiataol’

Mae nifer o wylwyr eisoes wedi mynegi siom a dicter ar y cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig gan na fydd modd diffodd yr isdeitlau yn ystod yr arbrawf.

Bellach mae hyd yn oed hashnod #DewisDiffoddS4C wedi cael ei chreu, ac yn ôl Simon Brooks mae’n gyfle i anfon neges i’r sianel nad oes croeso i’r isdeitlau.

“Yn bersonol, byddwn yn cefnogi boicot,” meddai, gan ddweud ei fod yn teimlo fod S4C yn “cymryd eu cynulleidfa graidd yn ganiataol”.

“Dw i’n pryderu’n fawr y bydd S4C yn edrych ar eu ffigyrau gwylio wythnos nesa’, ac os oes cynnydd mawr, mi fydd pwysau yn codi i gael isdeitlau ar y sgrin yn barhaol.

“Efallai y byddai’n gwneud lles pe bai gostyngiad yn y nifer sy’n gwylio S4C wythnos nesa’.”