S4C (llun y sianel)
Mae ymgyrchydd iaith amlwg wedi rhybuddio S4C i beidio â “mynd lawr llwybr llithrig” ar ôl iddyn nhw gyhoeddi y byddan nhw’n arbrofi am bron wythnos gydag is-deitlau Saesneg awtomatig ar raglenni Cymraeg.

Roedd Simon Brooks yn rhybuddio y galli hynny arwain S4C i fod yn “sianel deledu ddwyieithog” ac na ddylen nhw ddisgwyl cefnogaeth gan ymgyrchwyr iaith os byddan nhw’n dechrau rhoi is-deitlau awtomatig ar eu rhaglenni.

“Os ydy S4C yn mynd yn sianel ddwyieithog, chân nhw ddim cefnogaeth y mudiad iaith,” meddai wrth golwg360.

Mae’r sianel wedi mynnu mai dim ond trefniant dros dro yw hwn i dynnu sylw fod y gwasanaeth ar gael ac y byddan nhw’n mynd yn ôl at yr hen drefn wedyn.

‘Arbrawf’

Daw sylwadau Simon Brooks yn dilyn lansio ymgyrch y sianel i gynnwys is-deitlau awtomatig ar rai rhaglenni dros am bum niwrnod yr wythnos nesaf.

Bwriad y sianel yw denu rhagor o wylwyr di-Gymraeg ac er ei bod wedi dweud na fydd hyn yn barhaol, dydy Seimon Brooks ddim wedi’i ddarbwyllo.

“Dyw hyn ddim yn rhywbeth dros dro. Beth yw hyn yw arbrawf, a fy ymateb i i’r arbrawf yw Na,” meddai gan ychwanegu bod y syniad yn “lol annerbyniol”.

“Mae pobol yn y mudiad iaith yn anhapus efo hyn ac mae pobol y mudiad iaith wedi cau ceg oherwydd bod trafodaethau am gyllid wedi bod yn digwydd, ond fydd pobol yn y mudiad iaith ddim yn cau ceg mwyach ynglŷn â’r mater.”

Yn ôl Seimon Brooks, bydd y feirniadaeth y daw os bydd y sianel yn parhau ar hyd y llwybr hwn “yn gyhoeddus, yn groch ac yn filain.”

“Rydan ni i gyd yn gefnogol i ymdrechion S4C i ddenu gwylwyr di-Gymraeg, cyn belled nad ydy’n effeithio ar y gwasanaeth y mae gwylwyr Cymraeg eu hiaith yn ei dderbyn,” meddai.

‘Hyrwyddo gwasanaeth’ meddia’r Sianel

“Bwriad yr ymgyrch yma yw hyrwyddo gwasanaeth yr ydym yn ei gynnig yn barod,” meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C mewn datganiad i Golwg360.

“Am fod defnyddio isdeitlau yn amrywio cymaint, o deledu i deledu ac o ddyfais i ddyfais, rydym eisiau i wylwyr wybod eu bod nhw ar gael a’n bod ni yn gallu ei helpu i’w defnyddio.

“Am bum niwrnod wythnos nesa, er mwyn denu sylw at y gwasanaeth, bydd isdeitlau yn awtomatig ar fwy o raglenni na’r arfer. Wedi hynny byddwn yn dychwelyd i’r drefn arferol ac yn annog gwylwyr sydd eisiau ei defnyddio i’w troi ymlaen er mwyn mwynhau ein rhaglenni.”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymuno yn y beirniadu, gan alw ar S4C i ddefnyddio technolegau newydd er mwyn cyrraedd y nod.

“Wrth gwrs fod angen codi ymwybyddiaeth o wasanaethau megis is-deitlau, ac atynnu rhagor o wylwyr o bob cefndir at raglenni Cymraeg – ond mae cwestiynau difrifol i’w hateb ynglŷn â’r cynllun yma,” meddai eu llefarydd, Curon Davies.

“Cam gwag yw bwriad y sianel i orfodi is-deitlau uniaith Saesneg ar eu holl wylwyr yr wythnos nesaf, ac os nad oes modd eu diffodd er mwyn mwynhau’r rhaglenni hyn yn Gymraeg, mae’n gwbl annerbyniol.”

Fe alwodd hefyd am fwy o isdeitlau Cymraeg ar gyfer dysgwyr a phobol sydd â nam ar eu clyw.

Stori: Mared Ifan maredifan@golwg.com