Dros yr wythnos nesaf, bydd rhai o raglenni mwyaf poblogaidd S4C yn dangos is-deitlau’n awtomatig ar y sgrin, mewn ymgyrch i geisio annog pobol sydd ddim yn siarad Cymraeg i wylio’r sianel.

Pum diwrnod yn unig, rhwng 29 Chwefror a 4 Mawrth, bydd yr is-deitlau ar y sgrin, a chadarnhaodd y sianel nad oes bwriad ganddyn nhw i ddangos is-deitlau awtomatig yn barhaol.

Y nod yw denu sylw at y gwasanaeth is-deitlo a dangos bod modd i bobol sy’n llai hyderus yn eu Cymraeg, neu sydd ddim yn siarad Cymraeg o gwbl, fwynhau rhaglenni S4C.

‘Agor y drws i’r Gymraeg’ 

Dywedodd y sianel ei bod hefyd am gyrraedd cartrefi cymysg ei hiaith ble nad yw un neu sawl aelod o’r teulu  yn deall Cymraeg.

“Mae isdeitlau yn golygu fod pawb yn y tŷ yn gallu gwylio S4C gyda’i gilydd ac yn agor y drws i’r Gymraeg yn y cartref,” meddai’r Prif Weithredwr, Ian Jones.

Mae’r rhaglenni a fydd yn dangos is-deitlau’n awtomatig yn cynnwys rhaglen blant, Awr Fawr, Pobol y Cwm, Ffermio, Hacio a Gwaith Cartref.

 

“Uno” Cymru

Daw’r ymgyrch fel rhan o ddathliadau Gŵyl Ddewi S4C, diwrnod sy’n “uno” Cymru fel cenedl yn ôl Ian Jones.

“Eleni rydym eisiau estyn at bobl sydd yn teimlo nad yw S4C yn sianel ar eu cyfer nhw,” meddai.

“Rydym yn derbyn adborth yn aml fod pobl yn dymuno gwylio, ond yn credu nad ydyn nhw’n gallu, a’r prif reswm am hyn yw nad oes ganddyn nhw hyder yn eu hiaith neu am nad ydyn nhw’n gallu deall Cymraeg o gwbl.

“Yn aml hefyd dydyn nhw ddim yn sylweddoli fod isdeitlau ar gael i’w helpu i wylio y rhan fwyaf o’n rhaglenni.”

Mae is-deitlau ar gael ar y rhan fwyaf o raglenni S4C ar hyn o bryd ond bod yn rhaid i’r gwyliwr eu troi ymlaen ar eu setiau teledu.

Bob 

Fel rhan o’i hymgyrch, mae’r sianel yn lledu’r neges gyda chymorth cymeriad wedi’i animeiddio – Bob, sy’n cynrychioli’r gwylwyr hynny sydd ddim yn ddigon hyderus i ddilyn popeth sy’n digwydd ar deledu Cymraeg.

Bydd stori Bob i’w gweld ar y sgrin ac ar gyfryngau cymdeithasol fel rhan o’r ymgyrch dros gyfnod Gŵyl Ddewi i geisio gwneud S4C yn fwy hygyrch i wylwyr gwahanol.

 

Dyma restr o’r rhaglenni bydd yn cynnwys is-deitlau:

 

Llun 29 Chwefror

16:00 Awr Fawr

20:00 Pobol y Cwm

20:25 Ceffylau Cymru

21:30 Ffermio

 

Mawrth 01 Mawrth

16:00 Awr Fawr

19:30 Rownd a Rownd

20:00 Pobol y Cwm

20:25 Ward Plant

 

Mercher 02 Mawrth

16:00 Awr Fawr

19:30 Natur Gwyllt Iolo

20:00 Pobol y Cwm

20:25 Gwaith/Cartref

 

Iau 03 Mawrth

16:00 Awr Fawr

19:30 Rownd a Rownd

20:00 Pobol y Cwm

20:25 Celwydd Noeth

21:30 Pobol y Rhondda

22:00 Hacio

22:30 Ochr 1: Gwobrau’r Selar

Gwener 04 Mawrth

16:00 Awr Fawr

20:00 Pobol y Cwm

20:25 Sam ar y Sgrin

21:30 Jonathan