Andrew RT Davies
Mae galw am sefydlu ‘Parthau i Gefnogwyr’ ledled Cymru’r haf hwn i gefnogi tîm pêl-droed Cymru yn y bencampwriaeth yn Ewrop.

Fe fydd datganiad barn yn cael ei gyflwyno yn y Senedd heddiw gan arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R T Davies, yn galw ar bob Aelod Cynulliad i gefnogi’r alwad.

Yn ôl Andrew R T Davies, byddai sefydlu’r parthau yn ffordd o ddod â’r genedl at ei gilydd ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr fel Gareth Bale a Jess Fishlock.

Mae’r syniad yn adlais o’r parth i gefnogwyr a gafodd ei sefydlu ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yng Nghaerdydd, a ddenodd 150,000 o bobol.

Nid dyma’r tro cyntaf y mae’r alwad dros sefydlu parthau o’r fath ledled Cymru wedi codi. Ym mis Yn yr Hydref roedd Bethan Jenkins AC Plaid Cymru wedi galw am yr un peth.

Hwb i’r economi

Yn ôl y Ceidwadwyr, mae angen manteisio ar lwyddiant y tîm cenedlaethol i wella economi Cymru a byddai sefydlu’r parthau yn cynnig hwb.

“Am y tro cyntaf ers 1958, bydd gan bobol ledled Cymru gyfle i wylio ein tîm pêl-droed yn herio goreuon y cyfandir,” meddai Andrew R T Davies.

“Fodd bynnag, fydd hi ddim yn bosib i’r rhan fwyaf o chwaraewyr gael tocynnau i’r gemau eu hunain; ond does dim yn ein hatal rhag sefydlu parthau i gefnogwyr ledled y wlad er mwyn rhannu’r profiad gyda’n gilydd.

“Mae hwn yn gyfle mawr i gynyddu nifer y bobol sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru, a rhaid i ni gydio ynddo â dwy law.”