Byddai'n gyfle i wylio sêr Cymru fel Gareth Bale mewn parthau cefnogwyr y flwyddyn nesaf
Fe ddylai Llywodraeth Cymru geisio sefydlu parthau cefnogwyr tebyg i’r rhai a welwyd yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd eleni yn ystod Ewro 2016 y flwyddyn nesaf, yn ôl un Aelod Cynulliad.

Dywedodd Bethan Jenkins bod y Parth Cefnogwyr oedd wedi cael ei sefydlu ym Mharc yr Arfau  yn ystod y twrnament rygbi wedi profi’n hynod lwyddiannus gan ddenu dros 150,000 o gefnogwyr.

Ychwanegodd yr AC dros Orllewin De Cymru y byddai’n syniad da ceisio ail-greu’r un awyrgylch pan fydd tîm pêl-droed Cymru’n cystadlu ym Mhencampwriaeth Ewrop y flwyddyn nesaf.

Fe sicrhaodd y pêl-droedwyr eu lle yn rowndiau terfynol twrnament rhyngwladol am y tro cyntaf mewn 58 mlynedd yr wythnos diwethaf, ac maen nhw nawr wedi dechrau paratoi ar gyfer y trip i Ffrainc.

Gwylio o gartref

Cafodd y Parth Cefnogwyr ym Mharc yr Arfau ei sefydlu ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd, gyda’r lleoliad delfrydol dafliad carreg oddi wrth Stadiwm y Mileniwm yn golygu bod hyd yn oed cefnogwyr heb docynnau’n gallu mwynhau awyrgylch y gemau.

Mae parthau cefnogwyr hefyd wedi cael eu gweld mewn sawl pencampwriaeth bêl-droed ryngwladol, gyda’r gwledydd sydd yn cynnal y cystadlaethau yn sefydlu rhai anferth gyda sgriniau mawr er mwyn i gefnogwyr sydd ddim yn y stadiwm allu gwylio.

Ond fe fyddai sefydlu ardaloedd tebyg o gwmpas Cymru’r flwyddyn nesaf yn rhoi cyfle i gefnogwyr fydd methu teithio i Ffrainc i wylio’r tîm ddod at ei gilydd a gweld y pêl-droed gyda’i gilydd.

Gwelwyd rhywbeth tebyg i hynny yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd 2011, pan heidiodd torfeydd i Stadiwm y Mileniwm i wylio gemau Cymru ar y sgrin fawr wrth iddyn nhw chwarae allan yn Seland Newydd.

‘Angen dechrau cynllunio’

Yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar chwaraeon mae’n bryd i Lywodraeth Cymru ddechrau meddwl am geisio sefydlu parthau cefnogwyr ar gyfer Ewro 2016 y flwyddyn nesaf.

“Fe wnaeth y parth cefnogwyr yng Nghaerdydd greu awyrgylch rhyfeddol ac roedd yn llwyddiant ysgubol sydd yn rhaid i Gymru adeiladu arni,” meddai Bethan Jenkins.

“Mae tîm pêl-droed Cymru yn cymryd rhan mewn rowndiau terfynol cystadleuaeth am y tro cyntaf ers 1958 ac fe ddylai Llywodraeth Cymru fod ar flaen y gad wrth ymdrechu i sicrhau bod cynifer o gefnogwyr yn gallu ei fwynhau â phosibl.

“Er bydd degau o filoedd o gefnogwyr yn teithio i Ffrainc, bydd llawer mwy o bobl  eisiau dilyn Ashley Williams, Gareth Bale ac Aaron Ramsey a gweddill y bechgyn.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried sefydlu parthau cefnogwyr ar hyd a lled Cymru, mewn mannau lle mae dilyniant cryf i bêl-droed, fel Wrecsam, Bangor ac Abertawe ac nid yn unig yng Nghaerdydd.

“Mae angen i ni ddod â’r genedl ynghyd ac mae angen i’r Llywodraeth gynllunio nawr ar gyfer yr hyn fydd yn achlysur bythgofiadwy i Gymru.”