Taron Egerton
Fe fydd Taron Egerton a Jamie Foxx yn actio ochr yn ochr â’i gilydd mewn ffilm newydd am yr arwr chwedlonol o Nottingham, Robin Hood.

Mae’r Cymro Cymraeg wedi cael rhan y prif gymeriad yn Robin Hood: Origins, fydd yn cael ei chynhyrchu gan stiwdios Lionsgate, gyda Jamie Foxx – seren y ffilm Django Unchained gan Quentin Tarantino – yn chwarae rhan ‘Little John’ ac Eve Hewson yn actio ‘Maid Marian’.

Mae’n golygu rhagor o brysurdeb yng nghalendr yr actor 25 oed o Aberystwyth, sydd ar hyn o bryd yn Los Angeles yn ffilmio ar gyfer Millionaire Boys’ Club.

Cadw’n brysur

Daeth Taron Egerton yn wyneb cyfarwydd i’r cyhoedd ar ôl chwarae rhan y prif asiant ifanc yn Kingsman: The Secret Service gyda Colin Firth yn 2014.

Ers hynny mae wedi ymddangos yn Legend, ffilm Tom Hardy am yr efeilliaid Kray, ac ym mis Ebrill fe fydd yn chwarae rhan Eddie’r Eryr mewn ffilm am fywyd y sgïwr naid adnabyddus.

Fe fydd yr actor hefyd yn dychwelyd ar gyfer ail ffilm Kingsman, ac mae disgwyl i hwnnw gael ei saethu cyn y ffilm Robin Hood newydd.

Yn ddiweddar fe gafodd Taron Egerton ei enwebu ar gyfer gwobr BAFTA yng nghategori Seren Addawol – yr unig un o’r gwobrau yn y seremoni flynyddol sydd yn cael ei ddewis gan bleidlais gyhoeddus.