Taron Egerton (Llun 20th Century Fox)
Mae actor ifanc o Gymru wedi cael ei enwebu am un o’r gwobrau action mawr rhyngwladol.

Roedd enw Taron Egerton o Aberystwyth ymhlith y pump sy’n cystadlu am wobr Seren Addawol BAFTA am ei waith yn y ffilm, Kingsman – The Secret Service.

Fe ddywedodd ei fod “wrth ei fodd” a’i bod yn “anrhydedd fawr” i gael ei enwebu yn y categori – yr unig un o wobrau blynyddol BAFTA sy’n cael eu penderfynu gan bleidlais gyhoeddus.

Fe gafodd yr enwebiadau eu cyhoeddi y bore yma ac mae rhai o’r prif gategorïau eraill yn golygu bod Eddie Redmayne yn cystadlu am ei ail BAFTA yn olynol am ei rôl trawsrywiol yn y ffilm The Danish Girl.

Ymhlith eraill, fe fydd yn cystadlu yn erbyn Leonardo di Caprio, tra bod Cate Blanchett (Carol) a Maggie Smith (The Lady in the Van) yn wynebu’i gilydd yng nghategori’r Actores Orau.

‘Cymro go iawn’

“Dw i’n falch ac yn llawn cyffo i ddlyn yn ôl traed pobol dalentog iawn sydd wedi eu henwebu yn y gorffennol,” meddai Taron Egerton.

Ac mae rhagor i ddod, un o’i weithiau nesa’ fydd cymryd y brif rôl yn y ffilm Eddie the Eagle am gampau’r sgi-neidiwr Olympaidd aflwyddiannus – mae disgwyl i honno fod yn un o ffilmiau mawr y flwyddyn nesa’.

Fe gafodd yr actor 26 oed ei eni yn Lloegr, ond fe symudodd y teulu i Ynys Môn ac wedyn i Aberystwyth pan oedd yn 12 oed.

Mae’n siarad Cymraeg ac wedi dweud ar goedd ei fod yn “Gymro go iawn”.